Trydan, Magneteg a Mater

Module Identifier
FG11120
Module Title
Trydan, Magneteg a Mater
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Professor Andrew Evans
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite

Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
PH11120
Other Staff
Professor Andrew Evans

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Taflenni enghreifftiau i'w cwblhau yn ystod y semester addysgu. 30%
Semester Exam 3 Hours 70%
Supplementary Exam Arholiad Ailsefyll: 3 Hours 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Disgrifio egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchol, electrostatig a magnetig a chymhwyso'r rhain i enghreifftiau rhifol ar systemau syml.
  2. 2. Disgrifio priodweddau sylfaenol deunyddiau deuelectrig, magnetig, a deunyddiau sy'n dargludo trydan.
  3. 3. Cyfrifo y grym ar ronynnau wedi'u gwefru mewn meysydd trydanol a magnetig a disgrifio mudiant gronyn gwefredig mewn maes trydanol unffurf.
  4. 4. Cyfrifo potensial system o ronynnau gwefredig.
  5. 5. Disgrifio strwythur a swyddogaeth gwrthyddion a chynwysyddion a defnyddio diagramau gwedd, dulliau fector a rhifau cymhlyg i ddadansoddi cylchedau cerrynt eiledol.
  6. 6. Disgrifio egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ffiseg atomig, niwclear a gronynnau a chymhwyso'r rhain i enghreifftiau o systemau syml.

Brief description

Mae'r modiwl yn trafod y grymoedd mewn meysydd disgyrchiant ac electrostatig ac yn eu disgrifio yn nhermau'r ddeddf wrthdro sgwar gydag enghreifftiau darluniadol. Disgrifir hefyd y meysydd a'r potensialau cysylltiedig. Defnyddir gwefr a cherrynt trydanol, meysydd magnetig ac anwythiad electromagnetig i ddisgrifio gweithrediad cylchedau trydanol a phriodweddau deuelectrig a magnetig defnyddiau. Mae'r modiwl hefyd yn cyflwyno'r ffiseg sylfaenol sy'n greiddiol i ffiseg atomig, niwclear a gronynnau.

Aims

Mae'r modiwl yn ystyried yr egwyddorion creiddiol i feysydd disgyrchiant ac electrostatig ac yn cyflwyno magneteg, trydan a chylchedau trydan. Mae hefyd yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol mewn ffiseg atomig, niwclear a gronynnau. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, ac mae'r taflenni enghreifftiau yn cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer modiwlau uwch yn Rhan 2.

Content

MAES DISGYRCHIANT
1. Deddfau Kepler.
2. Deddf disgyrchiant Newton.
3. Egni potensial disgyrchiant.

ELECTROSTATEG:
1. Meysydd trydanol a chymwysiadau deddfau Coulomb a Gauss i wefrau trydanol mewn ffurfweddau geometreg gwahanol.
2. Potensial trydanol mewn perthynas a maes trydanol, arwynebau unbotensial.
3. Deunyddiau dargludo trydan, lled-ddargludo a deuelectrig.
4. Cynwysyddion a dwysedd egni.

MAGNETEG:
1. Meysydd magnetig, dolenni cerrynt a deunyddiau magnetig.
2. Deddfau Biot-Savart ac Ampere wedi'u cymhwyso i geryntau trydanol mewn gwifrau a solenoidau.
3. Anwythiad electromagnetig (Deddfau Faraday a Lenz), hunan anwythiad a dwysedd egni magnetig.

TRYDAN DC:
1. Cerrynt a gwrthiant, Deddf Ohm, gwrthedd.
2. Cylchedau cerrynt union (DC) - gwrthyddion mewn cyfres a pharalel, gwrthiant mewnol, egni a ph'rr.
3. Cylchedau rhannu potensial a rheolau Kirchoff.

TRYDAN AC :
1. Ceryntau eiledol (AC) mewn cylchedau gwrtheddol, cynhwysaidd ac anwythaidd.
2. Adweithedd a rhwystriant, effeithiau byrhoedlog. Dadansoddiad cylchedau AC gan ddefnyddio diagramau ffasor, dulliau fector a rhifau cymhlyg.
3. P'rr ac ongl gwedd. Cylchedau RCL mewn cyfres a pharalel ac amodau cyseiniant.

FFISEG ATOMIG, NIWCLEAR A GRONYNNAU
1. Mas niwclear ac egni clymu.
2. Dadfeiliad ymbelydrol.
3. Gronynnau elfennol, grymoedd sylfaenol a'r model safonol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol.
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa.
Problem solving Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Research skills Bydd y darllen cyfeiriedig yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio cefndir darlithoedd y modiwl. Gwneir hyn drwy ymarferion wythnosol a fydd hefyd angen ymchwil yn y llyfrgell thrwy defnyddio'r rhyngrwyd.
Team work Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau yn y gweithdai.

Notes

This module is at CQFW Level 4