Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
- Module Identifier
- FG15510
- Module Title
- Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Rachel Cross
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc, Gwyddor y Gofod a Roboteg neu Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol - Exclusive (Any Acad Year)
-
PH15720
- Exclusive (Any Acad Year)
-
FG15720
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PH15510
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PH15030
- Other Staff
- Dr Rachel Cross
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig: Caiff myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac yn gofyn am nifer gwahanol o eiriau. Bydd dyddiadur nodweddiadol oddeutu 200 gair yr arbrawf. | 70% |
| Semester Assessment | Adroddiad Labordy: 1000 o eiriau | 30% |
| Supplementary Assessment | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
- Cynhyrchu adroddiad gwyddonol wedi ei ysgrifennu’n glir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
- Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
- Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.
- Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.
Brief description
Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.
Content
• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.
Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl. |
| Communication | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf. |
| Improving own Learning and Performance | Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau. |
| Information Technology | Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiad labordy. |
| Problem solving | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion. |
| Research skills | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion. |
| Subject Specific Skills | Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol. |
| Team work | Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
