Module Information

Cod y Modiwl
FG15510
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Hefyd ar gael yn
Pre-Requisite
Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc, Gwyddor y Gofod a Roboteg neu Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig  Caiff myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac yn gofyn am nifer gwahanol o eiriau. Bydd dyddiadur nodweddiadol oddeutu 200 gair yr arbrawf.  70%
Asesiad Semester Adroddiad Labordy  1000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.

Cynhyrchu adroddiad gwyddonol wedi ei ysgrifennu’n glir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.

Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.

Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.

Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.

Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.

Cynnwys

• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.

Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion.
Gwaith Tim Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau.
Rhifedd Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiad labordy.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4