Trydan a Magnetedd
- Module Identifier
- FG22510
- Module Title
- Trydan a Magnetedd
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Owen Roberts
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
FG26020 or PM26020
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PH22510
- Other Staff
- Dr Xing Li
- Dr Owen Roberts
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | 2x Daflen enghreifftiau: | 30% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours | 70% |
| Supplementary Assessment | 2x Daflen enghreifftiau: | 30% |
| Supplementary Exam | Arholiad: 2 Hours | 70% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Trafod y cysyniadau sy'n sail i ddeddfau ffisegol mewn trydan a magnetedd.
- Dwyn i gof, dangos dealltwriaeth a chymhwyso hafaliadau Maxwell o ddeddfau empirig electromagnetedd.
- Egluro effeithiau deunydd ar feysydd trydan a magnetig a'r amodau'r ffin ar gyfer meysydd o'r fath.
- Adnabod a defnyddio calcwlws fector a thechnegau mathemategol eraill i ddadansoddi a mynegi senarios mewn trydan a magnetedd.
- Datrys enghreifftiau mewn trydan a magnetedd a dehongli'r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.
Brief description
Mae'r modiwl yn ystyried deddfau ffisegol mewn trydan a magnetedd. Mae un rhan o'r modiwl yn canolbwyntio ar drydan ac mae'n cynnwys electrostateg a deuelectrynnau gyda'r rhan arall yn cwmpasu meysydd magnetig, deunydd magnetig ac anwythiad electromagnetig. Trafodir amodau ffin electromagnetig ar ryngwyneb rhwng dau ddeunydd syml. Caiff y deddfau ffisegol eu mynegi yn nhermau gweithredyddion differol calcwlws fector a'u cyflwyno yn gyfunol fel hafaliadau Maxwell.
Content
ATGOFFA AM GALCWLWS FECTOR
- grad, div, curl.
- theorem dargyfeiriad, theorem Stokes.
- unfathiannau fector.
ELECTROSTATEG
- gwefr a maes trydanol.
- deddf Gauss.
- egni a photensial electrostatig.
- cynhwysyddion, deuelectrynnau, polareiddiad, maes dadleoliad trydanol, deddf Gauss ar gyfer maes dadleoliad trydan.
- amodau'r ffin ar gyfer D ac E.
- hafaliad Poisson.
- cyfrifiadau mewn electrostateg.
MEYSYDD MAGNETIG
- grym Lorentz.
- deupol magnetig.
- deddf Ampere, deddf Biot-Savart, potensial fector magnetig.
- magneteiddiad, dwysedd magnetig.
- amodau'r ffin ar gyfer B a H.
- hysteresis magnetig.
ANWYTHIAD ELECTROMAGNETIG
- deddf Faraday, deddf Lenz.
- anwythiad.
- egni magnetig.
HAFALIADAU MAXWELL
- hafaliad didoriant.
- cerrynt dadleoliad.
- hafaliadau Maxwell a datrysiad ton electromagnetig blan.
- fector Poynting.
- polareiddiad tonnau, ymddygiad ar ryngwynebau plan.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mae problemau rhifyddol yn y taflenni enghreifftiau ac yn yr arholiadau ffurfiol. |
| Communication | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno atebion ysgrifenedig i daflenni enghreifftiau. |
| Improving own Learning and Performance | Lluniwyd esiamplau ac adborth er mwyn annog dysgu hunan- gyfeiriol a gwella perfformiad. |
| Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau yn y modiwl drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd. |
| Personal Development and Career planning | Mae'r modiwl yn ymdrin â phynciau ffiseg craidd sy'n hanfodol ar gyfer portffolio academaidd myfyriwr sy'n bwriadu gweithio yn y maes. |
| Problem solving | Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl. Caiff ei asesu drwy'r taflenni enghreifftiau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
| Research skills | Mae darllen dan gyfarwyddyd yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio cefndir ar gyfer y modiwl. Bydd problemau hefyd yn cael eu gosod lle mae angen ymchwilio yn y llyfrgell ac ar y rhyngrwyd. |
| Subject Specific Skills | Mae trydan a magnetedd yn bynciau craidd mewn Ffiseg. |
| Team work | Ddim yn berthnasol – angen dileu yr eitem ar gyfer y daflen wybodaeth modiwl. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
