Sgiliau Ymchwil Ymarferol

Module Identifier
FG25720
Module Title
Sgiliau Ymchwil Ymarferol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Professor Huw Morgan
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
FG15030 or FG15510 or PH15030 or PH15510
Exclusive (Any Acad Year)
PH25720
Exclusive (Any Acad Year)
PH35110
Exclusive (Any Acad Year)
FG35110
Other Staff
Dr Dave Langstaff
Dr Gwenllian Williams

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adolygiad llenyddiaeth: 2 dudalen 10%
Semester Assessment Poster: 1 tudalen 10%
Semester Assessment Cyflwyniad llafar: 15 Munud 10%
Semester Assessment Ymarfer - Asesiad risg: 2 dudalen 10%
Semester Assessment Adroddiad: 10 tudalen 30%
Semester Assessment Ymarfer - Technegau dadansoddi: 3 tudalen 30%
Supplementary Assessment Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. ​​​Ymchwilio testunau sy'n berthnasol i'r gwaith prosiect drwy bapurau ac erthyglau ymchwil a chyflwyno adolygiad llenyddiaeth gyda llyfryddiaeth yn defnyddio Endnote neu feddalwedd tebyg.
  2. 2. Cynllunio a gweithredu prosiect heb lawer o fewnbwn gan staff addysgu, defnyddio sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn ystod y cwrs
  3. 3. Casglu data naill ai drwy arbrawf neu drwy adnoddau ar-lein gan ddangos ymwybyddiaeth o weithrediad yr offerynnau a'u graddnodiad.
  4. 4. Dadansoddi a dehongli data.
  5. 5. Cyflwyno arbrawf a'i ganlyniadau mewn cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
  6. 6. Cynnal asesiad risg ar gyfer gwaith arbrofol.

Brief description

​Mae'r modiwl yn bont rhwng gwaith labordy blwyddyn gyntaf a phrosiectau blwyddyn olaf. Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr o ofynion ymchwil ffiseg ymarferol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf a byddant yn datblygu'r rhain drwy weithio ar brosiect gosod mewn grwpiau o bedwar neu bump. Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gynllunio a gweithredu ar brosiect, technegau offeryniaeth a chyfrifiadura, asesu risg, chwilio'r lenyddiaeth, dadansoddi a dehongli data. Byddant yn cyfathrebu eu gwaith prosiect a'r canlyniadau drwy boster, cyflwyniad llafar ac adroddiad ffurfiol.​

Content

Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i:

Chwiliadau llyfrgell a rhyngrwyd, meddalwedd cyfeiriadau, darllen ac ysgrifennu papurau gwyddonol.

Technegau dadansoddi a chyfrifiadurol ar destunau megis prosesu delweddau, defnyddio Unix, modelu, efelychu a dadansoddi ystadegol.

Offeryniaeth a data o adnoddau amrywiol.

Diogelwch mewn gwaith prosiect yn cynnwys Asesu Risg ac eitemau megis COSHH, DSEAR, diogelwch laser a phelydredd.

Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump ar brosiect gosod. Mae angen iddynt gymhwyso'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl i ymchwilio cefndir y prosiect, cynllunio'r prosiect, datblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi a dehongli'r canlyniadau. Mae asesiad y gwaith prosiect yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, poster a chyflwyniad llafar, a hefyd adroddiad ffurfiol gan yr unigolyn. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu ar ymarferion ar asesu risg a thechnegau dadansoddi.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mae cymhwyso rhif yn angenrheidiol mewn dadansoddi data, yn cynnwys ansicrwydd mewn data a'u lledaeniad.
Communication Mae myfyrwyr yn cyfathrebu eu gwaith prosiect drwy adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
Improving own Learning and Performance Mae myfyrwyr yn datblygu a gwella eu perfformiad mewn set o sgiliau a ddefnyddir ar gyfer prosiectau blwyddyn-olaf i israddedigion.
Information Technology Mae myfyrwyr yn ymchwilio i gefndir y prosiect gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a chwiliadau llyfrgell, ac yn cyflwyno adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd llyfryddiaeth tebyg. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol i ddadansoddi data ac yn defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer prosesu-geiriau a chyflwyniadau.
Personal Development and Career planning Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac yn y byd gwaith yn y dyfodol. Mae asesiad risg yn sgil a ellir ei drosglwyddo yn y gweithle.
Problem solving Mae datrys problemau yn sgil craidd mewn gwaith prosiect ffiseg.
Research skills Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir y gwaith, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth berthnasol mwyaf diweddar.
Subject Specific Skills Gwybodaeth o'r teclynnau ymchwil priodol e.e. rhaglennu cyfrifiadurol, offeryniaeth.
Team work Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mewn grwpiau o bedwar neu bump.

Notes

This module is at CQFW Level 5