Ffiseg Mathemategol
- Module Identifier
- FG26020
- Module Title
- Ffiseg Mathemategol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Owen Roberts
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
MP10610 or MT10610
- Pre-Requisite
-
FG16210 or MP11010 or MT11010
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PM26020
- Other Staff
- Professor Huw Morgan
- Dr Owen Roberts
- Dr Edwin Flikkema
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Asesiad: 2 BRAWF | 30% |
| Semester Exam | 3 Hours Ysgrifenedig | 70% |
| Supplementary Exam | 3 Hours Ysgrifenedig | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Mynegi systemau a pherthnasoedd ffisegol gan ddefnyddio iaith fathemategol fectorau, hafaliadau differol a theori Fourier.
- Defnyddio fectorau, meysydd fector, algebra fector a systemau cyfesurynnau gwahanol i ddadansoddi problemau ffisegol mewn gofod 3-dimensiwn.
- Enrhifo integrynnau llinell, arwyneb a gofod. Galw i gof a defnyddio theoremau Stokes, Green a dargyfeiriad yn cynnwys ffactorau graddfa.
- Galw i gof a chymhwyso gwahanol ddulliau i ddatrys amrywiol fathau o hafaliadau differol.
- Dosbarthu, dadansoddi a datrys hafaliadau differol trefn-dau mewn amryw o gyd-destunau ffisegol.
- Disgrifio ac egluro cysyniadau dadansoddiad Fourier, ffaltwng a chydberthyniad a chymhwyso technegau dadansoddiad Fourier i broblemau mewn systemau ffisegol.
Brief description
Mae'r modiwl yn datblygu amrywiaeth o theoriau mathemategol: ddadansoddiad fector, hafaliadau differol a dadansoddiad Fourier. Cymhwysir y rhain i fodelu a datrys problemau mewn nifer eang o sefyllfaoedd ffisegol; electrostateg, magneteg, disgyrchedd, mecaneg, thermodynameg, ffiseg plasma, ffiseg atmosffer a mecaneg hylif.
Aims
Mae'r modiwl yn datblygu dulliau mathemategol i fodelu systemau ffisegol. Mae o bwysigrwydd sylfaenol i holl gynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg ac yn addas ar gyfer nifer o gynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg.
Content
Dadansoddiad fector: lluoswm triphlyg sgalar a fector, gwerthoedd eigen a fectorau eigen, cyfesurynnau polar, meysydd sgalar a fector 3-D, graddiant, dargyfeiriad a chwrl meysydd 3-D, gweithredydd fector, integrynnau llinell, integrynnau arwyneb. Hafaliadau differol: hafaliadau differol cyffredin o unrhyw drefn, hafaliadau differol cydamserol, hafaliadau differol rhannol, problemau gwerth eigen. Dadansoddiad Fourier o signalau, paramedrau cyflenwol (e.e. amledd ac amser), trawsffurfiadau Fourier.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Bydd myfyrwyr angen rheoli eu amser yn ystod y gweithdai wythnosol. |
| Co-ordinating with others | Mae myfyrwyr yn cal eu hannog i weithio gyda’i gilydd mewn gweithdai. |
| Creative Problem Solving | Mae’r modiwl yma ymwneud a datrys problemau mathemategol. Mae’r taflenni gwaith yn cynnwys problemau mathemategol. |
| Critical and analytical thinking | Mae’r myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i ddadansoddi problemau mewn mathemateg a ffiseg. |
| Digital capability | Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddarllen am y pynciau ar-lein. |
| Professional communication | Mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i gyfathrebu a’u gilydd mewn ffordd broffesiynol yn y gweithdai. |
| Real world sense | Mae’r problemau yn y gweithdai wedi cael eu ysbrydoli gan enghreifftiau byd go iawn. |
| Subject Specific Skills | Sgiliau ymchwilio: mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i ymchwilio o gwmpas y pwnc. Mae’r technegau mathemategol sydd yn cael eu dysgu yn dechnegau craidd i fathemateg a ffiseg. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
