Addysgu Ffiseg drwy brofiad gwaith mewn ysgol

Module Identifier
FG34410
Module Title
Addysgu Ffiseg drwy brofiad gwaith mewn ysgol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Professor Huw Morgan
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
PH34410
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cynllun gwers a myfyrio: (2000 gair) 40%
Semester Assessment Dyddiadur ysgol: 10 x 500 gair (cyfanswm 5000 gair) 60%
Supplementary Assessment Fel y pennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion addysgu ffiseg mewn ysgol.
  2. 2. Dangos dealltwriaeth o gyfathrebu ac arddangos cysyniadau ffiseg ar lefel sy'n addas i blant ysgol.
  3. 3. Dangos sgiliau trefnu a myfyrio wrth gadw dyddiadur o weithgareddau yn ystod y sesiynau yn yr ysgol, gan ddangos datblygiad yn ystod y semester.
  4. 4. Paratoi a gweithredu gweithgaredd addysgu penodol gyda'r nod o gefnogi addysgu yn yr ysgol.
  5. 5. Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd addysgu STEM a'r heriau sy'n gysylltiedig.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i israddedigion Ffiseg mewn ysgol.

Bydd sesiwn gwybodaeth fer cyn y profiad gwaith mewn ysgol. Yn ystod y sesiynau yn yr ysgol, bydd y myfyrwyr yn arsylwi ac yn cofnodi gwahanol sesiynau addysgu i ddechrau. Dros y semester byddant yn adeiladu i weithgareddau addysgu dan oruchwyliaeth ar lefel briodol.

Mae'n bosibl y bydd llefydd ar y modiwl yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiad lleoliadau ac adnoddau. Mae'r llefydd hefyd yn ddibynnol ar wiriadau DBS ar gyfer pob myfyriwr. Mae'r modiwl yn dibynnu ar amgylchiadau Cofid a'r cyfyngiadau posib mewn ysgolion. Mi ddylai myfyrwyr sydd a diddordeb gysylltu a'r cydlynydd modiwl cyn dewis y modiwl wrth rhag-gofrestru.

Content

Nid oes maes llafur ffurfiol. Bydd y myfyrwyr yn:
- mynychu sesiwn hyfforddi a gwybodaeth ffurfiol fer
- ennill profiad mewn ysgol leol: 10 hanner diwrnod o dan fentora athro
- arsylwi sesiynau addysgu
- cynnal gweithgareddau addysgu ar raddfa fechan, gan gynnwys cynllunio a myfyrio
- cynllunio, gweithredu a myfyrio ar sesiwn addysgu dan oruchwyliaeth briodol

Asesir y modiwl trwy ddyddiadur arsylwi gwersi (sy'n cynnwys cofnod presenoldeb), a gweithgaredd addysgu a gynlluniwyd.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Yn ganolog i addysgu ffiseg mewn ysgolion.
Communication Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn ganolog i weithgareddau addysgu'r myfyriwr, yn ogystal â'u hasesiad.
Improving own Learning and Performance Bydd y dyddiadur, yn ogystal â disgwyliadau eu mentoriaid ysgol, yn annog datblygiad parhaus o'u perfformiad.
Information Technology Rhaid i'r myfyriwr ymchwilio gwybodaeth am eu hasesiadau gan ddefnyddio'r rhyngrwyd (ee paratoi gweithgareddau priodol ar gyfer addysgu).
Personal Development and Career planning Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio'n benodol i baratoi myfyrwyr i yrfa mewn addysgu.
Problem solving Yn ganolog mewn ffiseg ac yn hanfodol ar gyfer addysgu ffiseg mewn ysgolion.
Research skills Bydd y myfyriwr yn ymchwilio gwybodaeth am y pwnc, gan ddefnyddio'r llyfrgell a'r rhyngrwyd.
Subject Specific Skills Dylunio a gweithredu arbrofion ar lefel sy'n briodol i ysgolion.
Team work Yn ganolog i'r myfyriwr yn eu lleoliad ysgol, wrth ymgysylltu â'u mentor a staff ysgol eraill.

Notes

This module is at CQFW Level 6