Sgiliau Ymchwil Ymarferol (10 credyd)
- Module Identifier
- FG35110
- Module Title
- Sgiliau Ymchwil Ymarferol (10 credyd)
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Professor Huw Morgan
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
FG15510 or FG15720 or PH15510 or PH15720
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PH25720
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PH35110
- Exclusive (Any Acad Year)
-
FG25720
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adolygiad llenyddiaeth: 2 dudalen (Grŵp) | 15% |
| Semester Assessment | Poster: 1 tudalen (Grŵp) | 15% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad Llafar: 15 munud (Grŵp) | 15% |
| Semester Assessment | Adroddiad Unigol: 10 tudalen (Unigol) | 40% |
| Semester Assessment | Ymarfer – Asesiad risg: 2 dudalen (Grŵp) | 15% |
| Supplementary Assessment | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol. | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- 1. Chwilio am wybodaeth berthnasol i'r gwaith prosiect drwy ymchwil ar-lein o bapurau ac erthyglau gwyddonol, adolygu y llyfryddiaeth yn feirniadol a chyflwyno adolygiad gan ddefnyddio meddalwedd llyfryddiaeth pwrpasol.
- 2. Trefnu a chymryd rhan mewn prosiect heb lawer o fewnbwn gan staff addysgu, gan arddangos sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn ystod y cwrs.
- 3. Casglu data drwy arbrawf neu adnoddau ar-lein gan arddangos ymwybyddiaeth o weithrediad yr offerynnau a'u graddnodiad.
- 4. Dadansoddi, dehongli a gwerthuso data arbrofol.
- 5. Rhannu canlyniadau arbrawf a'i ganlyniadau mewn cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
- 6.Ffurfio asesiad risg ar gyfer gwaith arbrofol.
Brief description
Mae'r modiwl yn bont rhwng gwaith labordy blwyddyn gyntaf a phrosiectau blwyddyn olaf. Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr o ofynion ymchwil ffiseg ymarferol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf a byddant yn datblygu'r rhain drwy weithio ar brosiect gosod mewn tîm bychan (o bedwar neu bump fel arfer). Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gynllunio a gweithredu ar brosiect, technegau offeryniaeth a chyfrifiadura, asesu risg, chwilio'r lenyddiaeth, dadansoddi a dehongli data. Byddant yn cyfathrebu eu gwaith-prosiect a'r canlyniadau drwy boster, cyflwyniad llafar ac adroddiad ffurfiol.
Content
Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i:
- Chwiliadau llyfrgell a rhyngrwyd, meddalwedd cyfeiriadau, darllen ac ysgrifennu papurau gwyddonol.
- Technegau dadansoddi a chyfrifiadurol ar destunau megis prosesu delweddau, modelu ac efelychu.
- Offeryniaeth a data o adnoddau amrywiol.
- Diogelwch mewn gwaith prosiect yn cynnwys Asesu Risg ac eitemau megis COSHH, DSEAR, diogelwch laser a phelydredd.
Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau (o bedwar neu bump fel arfer) ar brosiect gosod. Mae angen iddynt gymhwyso'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl i ymchwilio cefndir y prosiect, cynllunio'r prosiect, datblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi a dehongli'r canlyniadau. Mae asesiad y gwaith prosiect yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, poster a chyflwyniad llafar gan y grŵp ac adroddiad ffurfiol gan yr unigolyn. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu ar ymarfer asesu risg ffurfiol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mewn timau bychain (o bedwar neu bump fel arfer). |
| Creative Problem Solving | Mae datrys problemau yn sgil craidd mewn gwaith prosiect ffiseg. |
| Critical and analytical thinking | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir y gwaith, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth berthnasol mwyaf diweddar. |
| Digital capability | Mae myfyrwyr yn ymchwilio i gefndir y prosiect gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a chwiliadau llyfrgell, ac yn cyflwyno adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd llyfryddiaeth tebyg. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol i ddadansoddi data ac yn defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer prosesu-geiriau a chyflwyniadau. |
| Professional communication | Bydd y myfyrwyr yn cyfathrebu eu gwaith prosiect drwy adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol. |
| Real world sense | Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac yn y byd gwaith yn y dyfodol. Mae asesiad risg yn sgil a ellir ei drosglwyddo yn y gweithle. |
| Reflection | Mae myfyrwyr yn datblygu a gwella eu perfformiad mewn set o sgiliau a ddefnyddir ar gyfer prosiectau blwyddyn-olaf i israddedigion. |
| Subject Specific Skills | Gwybodaeth o'r teclynnau ymchwil priodol e.e. rhaglennu cyfrifiadurol, offeryniaeth.Mae cymhwyso rhif yn angenrheidiol mewn dadansoddi data, yn cynnwys ansicrwydd mewn data a'u lledaeniad. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
