Module Information

Cod y Modiwl
FG37000
Teitl y Modiwl
Prosiect (gyda rheoli prosiect)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  (15 munud. Semester 2)  15%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig  (1,000 gair) Adroddiad ar reoli prosiect (Semester 2)  10%
Asesiad Semester Prawf llyfr-agored yn y dosbarth  (Semester 1)  10%
Asesiad Semester Chwiliad ac adolygiad llenyddiaeth, cynllun prosiect  (2,500 gair. Semester 1)  15%
Asesiad Semester Adroddiad terfynol  (5,000 gair. Semester 2)  45%
Asesiad Semester Marc cynnydd  (Semester 2)  5%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Ymchwilio i broblem wyddonol benodol sy'n gysylltiedig â ffiseg.

2. Adnabod ac adolygu'n feirniadol y llenyddiaeth wyddonol mewn maes a ddewiswyd.

3. Llunio cynllun prosiect a'i weithredu yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o'r ffiseg dan sylw ac ar y llenyddiaeth gefndir.

4. Adnabod adnoddau i ymgymryd â phrosiect gwyddonol.

5. Crynhoi eu canfyddiadau mewn adroddiad cynhwysfawr.

6. Cyflwyno ac amddiffyn y gwaith ar lafar.

7. Amlinellu egwyddorion rheoli prosiect sy'n berthnasol i'r prosiect a ddewiswyd.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn dyblu fel prosiect ffiseg blwyddyn olaf ar gyfer myfyrwyr BEng Ffiseg Peiriannol BEng ac fel prosiect canolradd ar gyfer myfyrwyr MEng Ffiseg Peiriannol. Mae'r modiwl yn cynnwys cydran ar sgiliau rheoli prosiect.
Bydd pob myfyriwr yn ymgymryd â phrosiect. Byddant fel arfer yn gweithio arno mewn parau o dan arweiniad eu goruchwyliwr prosiect personol ac yn cyflwyno eu canlyniadau mewn cyflwyniad llafar ac adroddiad prosiect terfynol unigol. Asesir y mfyfyrwyr yn unigol ar y sgiliau rheoli prosiect.
Mae nifer o gerrig milltir yn ystod y prosiect (strategaeth i chwilio llenyddiaeth, adolygiad llenyddiaeth llawn, cynllun prosiect a dogfen canlyniadau rhagarweiniol) wedi'u cynllunio i gadw prosiect wedi ei ffocysu ac i sicrhau yn fras ddosbarthiad cytbwys o lwyth gwaith drwy gydol y flwyddyn.

Cynnwys

1. Cyfnod adolygu llenyddiaeth (chwilio ac adolygu llenyddiaeth).
2. Cyfnod cynllunio (cynllun prosiect, adnoddau sydd eu hangen).
3. Cyfnod arbrofol (gwaith arbrofol, dogfen canlyniadau rhagarweiniol).
4. Cyfnod lledaenu (cyflwyniad llafar, adroddiad ysgrifenedig).
5. Sgiliau rheoli prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae angen cyfathrebu a sgiliau lythrennedd i gyflwyno canfyddiadau mewn cyflwyniad llafar ac adroddiad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd y gydran ar reoli prosiect yn darparu sgiliau ar gyfer gyrfaoedd peirianneg.
Datrys Problemau Mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol wrth ymateb i ganlyniadau cychwynnol ac addasu strategaethau arbrofol yn unol â hynny.
Gwaith Tim Gwneir ymchwiliadau arbrofol a chwiliad ac adolygiad llenyddiaeth a'r cynllun prosiect mewn grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae myfyrio ar ganlyniadau gwaith labordy i gynllunio gwaith pellach yn datblygu hunan-ddysgu a pherfformiad.
Rhifedd Mae defnyddio rhif yn hanfodol i ddadansoddi data arbrofol, gan gynnwys lledaeniad cyfeiliornadau.
Sgiliau pwnc penodol Gwybodaeth am dechnegau ymchwil perthnasol, e.e. ieithoedd rhaglennu, offeryniaeth.
Sgiliau ymchwil Mae angen sgiliau ymchwil i ddyfeisio arbrofion i brofi damcaniaethau a chyflawni adolygiadau llenyddiaeth.
Technoleg Gwybodaeth Mae offeryniaeth a chyfrifiaduron yn hanfodol i gyflawni arbrofion, dadansoddi data a chyflwyno canlyniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6