Cymru a'r Celtiaid
- Module Identifier
- GC11800
- Module Title
- Cymru a'r Celtiaid
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Simon Rodway
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
IR11820
- Other Staff
- Dr Cathryn Charnell-White
- Dr Llewelyn Hopwood
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad: 10 Munud | 10% |
| Semester Assessment | Arholiad Agored: Aseiniad takeaway i'w gwblhau dros 7 niwrnod. 1500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad: Gellid cyflwyno recordiad i'w asesu. 10 Munud | 10% |
| Supplementary Assessment | Arholiad Agored: Aseiniad takeaway i'w gwblhau dros 7 niwrnod. 1500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- gwahaniaethu rhwng y ffyrdd y defnyddir y term ‘Celtaidd’ mewn nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys ieithyddiaeth, archeoleg a hanes
- adnabod datblygiad cronolegol y term ‘Celtaidd’ ers ei ddigwyddiad cyntaf yn y ffynonellau Clasurol
- adnabod y prif gysyniadau sy’n amgylchynu’r bobl a adwaenir fel y Celtiaid, a gallu pwyso a mesur y dystiolaeth sy’n ymwneud â hwy yn feirniadol
- trafod nifer o safbwyntiau theoretig megis strwythuriaeth ac ôl-drefedigaetholaeth fel y maent yn berthnasol i’r cysyniad o ddiwylliant Celtaidd
Brief description
ae’r modiwl hwn yn dadansoddi a herio cysyniadau am yr hen Geltiaid a’u perthnasedd yn y byd modern. Mae’n rhoi fframwaith deallusol i ystyried pob math o gwestiynau ym maes Astudiaethau Celtaidd Dadansoddir y term ‘Celt’, a gofynnir y cwestiwn ‘Pwy oedd yr hen Geltiaid?’ Pa fathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio i ateb hyn, a beth yw’r problemau? A yw’r Gwyddelod a’r Cymry yn ‘Geltiaid’? Sut y datblygodd syniadau modern am y Celtiaid, a sut y maent wedi’u (camd)defnyddio? Trafodir y cwestiwn o barhad Celtaidd? Dadansoddir disgrifiadau o siaradwyr ieithoedd Celtaidd dros y canrifoedd. Yn aogystal, trafodir crefydd Geltaidd baganaidd a sefydliadau ‘Celtaidd’ honedig megis derwyddon a beirdd.
Content
• Yr ieithoedd Celtaidd I: Rhagymadrodd
• Yr ieithoedd Celtaidd II: Pryd a ble cawsant eu siarad?
• Cwestiynu Celtigrwydd a ‘Cheltosgeptigiaeth’
• Problemau Celtigrwydd: tystiolaeth iaith, archeoleg, hanes a geneteg
• Brythoniaid, Gwyddelod a Cheltiaid
• Ailddarganfod y berthynas rhwng yr ieithoedd Celtaidd
• ‘Creu’ Celtigrwydd I: etifeddiaeth yr awduron Clasurol
• ‘Creu’ Celtigrwydd II: Rhamantiaeth
• Yr Hen Geltiaid yn eu geiriau eu hun
• Y Brythoniaid a’r Gwyddelod yn eu geiriau eu hun
• Parhad Celtaidd I: fframwaith theoretig
• Parhad Celtaidd II: astudiaethau achos
• Sefydliadau Celtaidd I: crefydd Geltaidd baganaidd
• Sefydliadau Celtaidd II: derwyddon
• Sefydliadau Celtaidd III: beirdd
• Crynodeb ac adolygiad
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Dim yn berthnasol |
| Communication | Ar bapur: mynegi yn glir syniadau a ddadansoddir mewn aseiniadau ysgrifenedig. Ar lafar: cyfrannu yn y dosbarth a thrafodaethau grŵp. |
| Improving own Learning and Performance | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriad yn ystod seminarau (neu gyflwyniad seminar); datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith arall. |
| Information Technology | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du |
| Personal Development and Career planning | Dim yn berthnasol |
| Problem solving | Trwy ymwneud yn feirniadol (ar lafar ac ar bapur) â chysyniadau deallusol. |
| Research skills | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp mewn darlithiau a seminarau. Hefyd trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
| Subject Specific Skills | Ymwneud â chysyniadau cysylltiedig â Cheltigrwydd |
| Team work | Gweithio mewn grwpiau i baratoi cyflwyniadau |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
