Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd 2500 o eiriau | 60% |
Semester Assessment | Papur briffio 1500 o eiriau | 40% |
Supplementary Assessment | Papur briffio 1500 o eiriau | 40% |
Supplementary Assessment | Traethawd 2500 o eiriau | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Diffinio dimensiwn hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol amlddiwylliannedd mewn democratiaethau modern.
Dangos dealltwriaeth o'r materion allweddol a'r heriau o ran polisi mewn cymdeithasau amlddiwylliannol.
Dangos dealltwriaeth o pam a sut y mae polisïau a modelau gwahanol wedi eu llunio a'u gweithredu.
Dangos dealltwriaeth o lwyddiannau, cyfyngiadau a methiannau polisïau a modelau gwahanol.
Cyfathrebu gwybodaeth, dadleuon a dadansoddiad o bolisïau a modelau ar draws ystod o astudiaethau achos.
Dangos dealltwriaeth o amrywiol draddodiadau a safbwyntiau.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn archwilio dadleuon polisi cyfoes ynghylch rheoli amrywioldeb, hunaniaeth a dinasyddiaeth. Bydd gwahanol ddehongliadau o amlddiwylliannedd yn cael eu hystyried a gwahanol ddulliau o ymdrin ag amrywiaeth yn cael eu dadansoddi - o bersbectif 'pot toddi' yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r 20fed ganrif, mabwysiadu'r polisi amlddiwylliannedd yng Nghanada yn ystod y 1960au, yr encil o amlddiwylliannedd a welwyd yn Ewrop ers canol y 1990au a model rhyngddiwylliannol Quebec. Bydd y modiwl yn trafod materion cyfoes megis cysylltiadau hil, rhyddid mynegiant, anghydraddoldebau a gwahaniaethu a bydd yn canolbwyntio'n benodol ar hawliau pobloedd brodorol, grwpiau mewnfudol a lleiafrifoedd cenedlaethol mewn cyd-destunau cymharol.
Content
Bydd y darlithoedd a'r seminarau yn cyflwyno myfyrwyr i wahanol fodelau o ymdrin ag amrywioldeb gan gynnwys amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannol fel athroniaeth polisi cyhoeddus. Er mwyn dangos ac archwilio'r heriau, cyfyngiadau a phosibiliadau sy'n gysylltiedig â modelau amrywiol (e.e., amlddiwylliannedd, rhyngddiwylliannaeth, 'dallineb lliw’), bydd y modiwl yn canolbwyntio ar sawl gwlad gan gynnwys Canada, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a'r Deyrnas Unedig. Bydd yn archwilio modelau a pholisïau ar draws gwahanol astudiaethau achos a bydd yn canolbwyntio'n benodol ar hawliau pobloedd brodorol, grwpiau mewnfudol a lleiafrifoedd cenedlaethol i dynnu sylw at y gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd gan ystod o lywodraethau ynghyd â goblygiadau'r polisïau hyn. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar feirniadaethau amlddiwylliannedd a'r ‘encil’ diweddar yn erbyn amlddiwylliannedd mewn byd ôl-9/11.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Ddim yn berthnasol. |
Communication | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ffurfio eu syniadau ar lafar mewn trafodaethau seminar ac yn ysgrifenedig yn eu traethodau, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn gyson, yn effeithiol ac yn glir. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd casglu a dadansoddi data ynghyd â chyfathrebu clir. Byddant yn dysgu sut i ddefnyddio a manteisio ar y ffynonellau gwybodaeth niferus sydd ar gael a sut i ysgrifennu a siarad yn glir. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc yn unig a chanolbwyntio ar nodau ac amc |
Improving own Learning and Performance | Mae’r modiwl yn hybu sgiliau hunanreoli. Mae hefyd yn annog y myfyrwyr i geisio cymorth a chefnogaeth gan y cydlynydd a chan eu cyd-fyfyrwyr, ac i ddeall yr adborth a gweithredu yn ei sgil. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain drwy chwilio am ffynonellau a llunio rhestrau darllen. Drwy orfod gwneud cyflwyniadau mewn seminarau a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiad cau, bydd y myfyrwyr yn dysgu a |
Information Technology | Bydd disgwyl i’r gwaith y mae’r myfyrwyr yn ei gyflwyno’n electronig gael ei baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig. Bydd disgwyl hefyd i’r myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau a fydd ar gael ar Blackboard. |
Personal Development and Career planning | Bwriedir i’r modiwl hwn ddatblygu nifer o sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i’r myfyrwyr o safbwynt personol a phroffesiynol. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, gallu i barchu safbwyntiau pobl eraill, datblygu a chyflwyno dadl glir ar lafar ac yn ysgrifenedig, a gwrando ar safbwyntiau a datganiadau pobl eraill, myfyrio arnynt ac ymateb iddynt. Yn ogystal, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio |
Problem solving | Bydd gwaith grŵp, gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un o nodau canolog y modiwl. Drwy orfod cyflwyno dau aseiniad ysgrifenedig a pharatoi at drafodaethau seminar bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol ynghyd â sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau drwy ofyn iddynt fabwysiadu safbwyntiau; dadansoddi a chyflwyno data; datblygu a chyflwyno dadl; ystyried achosion eithafol, tebyg ac annhebyg; rhesymu a chwilio am batrymau. |
Research skills | Bydd yn rhaid wrth sgiliau ymchwilio annibynnol a sgiliau llythrennedd gwybodaeth er mwyn paratoi a chyflwyno’r gwaith cwrs a bydd hyn hefyd yn annog y myfyrwyr i ddod o hyd i adnoddau ymchwil priodol a’u defnyddio, ac ysgrifennu’r canlyniadau ar ffurf dadl. Wrth baratoi at y seminarau bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau prosiect annibynnol. |
Subject Specific Skills | Bydd y modiwl yn annog y disgyblion i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol a fydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl; • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd; • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol. • Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes. |
Team work | Bydd y myfyrwyr yn gwneud ymarferion tîm yn y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau trafod y modiwl hwn, cynhelir trafodaethau mewn grwpiau bach yn y seminarau lle gofynnir i’r myfyrwyr drafod mewn grŵp y materion craidd sy’n gysylltiedig â phwnc trafod y seminar. Mae’r trafodaethau a’r dadleuon seminar hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn gyfle i’r myfyrwyr ystyried ac ymdrin â phwnc penodol drwy waith tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 5