Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw

Module Identifier
GQ23920
Module Title
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Elin Royles
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Christopher Phillips
Dr Catrin Wyn Edwards
Dr Andrew Davenport
Dr Gillian Mcfadyen

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyfranogiad seminar: 10%
Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Tasg blog: 1500 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 500 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Tasg blog: 1500 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Diffinio a thrafod prif nodweddion y dull cymharol.
  2. Diffinio a thrafod cysyniadau gwleidyddol allweddol fel ideoleg, anghydraddoldeb a’r wladwriaeth.
  3. Diffinio a thrafod perthnasoedd etholiadol, poblyddol, awdurdodaidd a rhai sydd wedi’u gwreiddio’n gymdeithasol.
  4. Trafod cymhwyso’r dull cymharol gyda golwg ar gyfres o enghreifftiau empirig.
  5. Dynodi rôl ffenomena gwleidyddol allweddol yn siapio perthnasoedd gwleidyddol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r rhesymeg y tu ol i arferion gwleidyddiaeth gymharol. Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o gysyniadau a thrafodaethau allweddol am wahanol rymoedd a pherthynasoedd gwleidyddol ac yn gweld sut y maent yn cysylltu ag enghreifftiau a dynnir o ymarfer gwleidyddiaeth mewn gwahanol rannau o’r byd. Bydd thema anghydraddoldebau gwleidyddol yn amlwg drwy gydol y modiwl a bydd gofyn i fyfyrwyr adfyfyrio ar y gwahanol ffyrdd y caiff anghydraddoldebau gwleidyddol eu creu a’u cynnal a sut y gellid eu goresgyn.

Content

Addysgir y modiwl drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Caiff y darlithoedd eu paru, gan archwilio cysyniadau neu berthnasoedd allweddol mewn theori ac yna’n ymarferol (yn gymharol). Ymysg y perthnasau gwleidyddol dan sylw fydd rhai etholiadol, poblyddol, awdurdodaidd a rhai sydd wedi’u gwreiddio’n gymdeithasol (fel llygredd) yn ogystal â mudiadau cymdeithasol. O ganlyniad, ymhlith y ffenomena gwleidyddol a astudir yn ystod y modiwl mae ideoleg, anghydraddoldeb a rôl y wladwriaeth.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i’w defnyddio. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r ffynonellau gwybodaeth niferus sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r ffurf mwyaf priodol o gyfathrebu yn y ffordd orau. They Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad a byddant yn uniongyrchol am eu nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu canolbwyntio’n agos ar ddeunydd perthnasol i amcanion eu dadl neu’r drafodaeth. Bydd y modiwl hwn yn profi sgiliau cyfathrebu llafar gan ei fod yn cynnwys perfformiad seminar a asesir. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith yn eu gwaith ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain. Bydd yr angen i baratoi ar gyfer cyfranogiad mewn seminar a asesir a chwrdd â dyddiadau cau gwaith cwrs yn canoli sylw myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Information Technology Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio Blackboard i gyrchu deunyddiau’r modiwl, defnyddio gwefannau perthnasol, defnyddio Turnitin i gyflwyno traethodau a chael adborth i’w traethodau a marciau.
Personal Development and Career planning Mae’r modiwl wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol fel siarad gyda grwpiau bach a mawr, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill, yn ogystal â mynegi eu hunain yn glir yn ysgrifenedig.
Problem solving Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno traethawd a pharatoi at seminar yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; cymhwyso modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai o faint.
Research skills Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio cyfryngau a ffynonellau gwe, yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol.
Subject Specific Skills Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl; Gallu gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd; Dangos technegau ymchwil penodol i’r pwnc; Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth.
Team work Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach a mawr yn y seminarau i ystyried gwahanol agweddau ar y pwnc ac aseiniadau darllen penodol.

Notes

This module is at CQFW Level 5