Module Information

Cod y Modiwl
GW12420
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dehongliad o gysyniad gyda chyfeirnodau a llyfryddiaeth  (1,000 gair)  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2,000 gair)  2000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Traethawd (2,000 gair)  60%
Asesiad Semester Dehongliad o gysyniad gyda chyfeirnodau a llyfryddiaeth (1,0  (1,000 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos gwybodaeth feirniadol o gysyniadau, themâu a chwestiynau allweddol sy’n berthnasol i astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
2. Dangos y gallu i ddefnyddio cysyniadau allweddol mewn amgylchiadau penodol ac i’w haddasu neu eu beirniadu yn ôl y cyd-destun
3. Amlinellu canfyddiad cyffredinol o ddisgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol a’i ddyfodol
4. Dangos y gallu i gyflwyno dadl gydlynol yn ysgrifenedig.
5. Dangos y gallu i ysgrifennu darn o waith cwrs sydd wedi’i gyflwyno a’i gyfeirnodi mewn modd addas.
6. Dangos gafael ar sgiliau ymchwil, dadansoddi, dehongli ac ysgrifennu sy’n addas ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad trwyadl a chynhwysfawr i gysyniadau a themâu sy’n ganolog ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. Bydd cyfres o safbwyntiau damcaniaethol allweddol yn cael eu cyflwyno a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i’w cloriannu gan gyfeirio at gyfuniad o enghreifftiau hanesyddol a chyfoes.

Cynnwys

Caiff y modiwl ei gyflwyno trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Ymysg y pynciau allweddol a fydd ync ael eu trafod yn ystod y modiwl bydd:
- Y wladwriaeth
- Y genedl
- Tiriogaeth
- Rhyfel, heddwch a diogelwch
- Sefydliadau rhyngwladol
- Globaleiddio
- Sgiliau astudio hanfodol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno’u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio’r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu sut i ysgrifennu a siarad yn glir a dweud yn ddiamwys beth yw eu nodau a’u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i bwnc trafod, byrdwn ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Cynhelir y seminarau mewn grwpiau lle dysgir yn bennaf drwy drafod ar lafar a chyflwyniadau, a bydd y pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogi a chyfathrebu. Hwylusir hyn drwy chwarae rôl mewn grwpiau lle bydd timau’n cymryd rhan yn y seminar a thu hwnt i hynny.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y trafodaethau’n arbennig yn helpu i ddatblygu sgiliau llafar a sgiliau cyflwyno’r myfyrwyr ynghyd â’u sgiliau gwaith tîm. Bydd dysgu am broses cynllunio traethawd ac adroddiad, pennu ffiniau prosiectau, mireinio a datblygu prosiectau a chwblhau’r y gwaith yn cyfrannu at bortffolio’r myfyrwyr o sgiliau trosglwyddadwy. Yn benodol, mae ysgrifennu adroddiadau’n sgil trosglwyddadwy hanfodol sy’n cyfrannu at eu proffil cyflogadwyedd.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau’n un o nodau canolog y modiwl; bydd y myfyrwyr yn cyflwyno traethawd, a thrwy hynny’n datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Drwy wneud gwaith ymchwil a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau seminar bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau prosiect annibynnol. Caiff gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a bwrw amcan ynglŷn ag ateb i’r broblem; ystyried achosion eithriadol; rhesymu; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Yn rhan o’r seminarau, bydd y myfyrwyr yn gwneud gwaith mewn grwpiau bach a gweithgareddau chwarae rôl lle bydd gofyn iddynt baratoi, cyflwyno a thrafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc trafod y seminar dan sylw. Mae’r trafodaethau dosbarth hyn yn rhan hanfodol o brofiad dysgu’r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydlynydd a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu hadroddiadau a’u traethodau. Mae gwaith grŵp yn rhan annatod o’r seminarau ac yn gyfle i’r myfyrwyr i adfyfyrio ar eu pen eu hunain a chyda’i gilydd ar eu perfformiad. Bydd yr angen i gyfrannu i drafodaethau grŵp yn y seminarau a chwblhau asesiadau erbyn y dyddiad cau yn hoelio sylw’r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser a’u hadnoddau’n dda.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol sydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a chloriannu enghreifftiau a syniadau yn ystod y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Gallu i bwyso a mesur safbwyntiau cyferbyniol • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau mewn cyfnodolion ac ati.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno’u gwaith wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig (megis Lexus-Nexus, Primo, Google Scholar ac ati). Disgwylir hefyd i’r myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau a fydd ar gael ar AberLearn Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4