Y Tu ôl i'r Penawdau

Module Identifier
GW12620
Module Title
Y Tu ôl i'r Penawdau
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Elin Royles
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Christopher Phillips
Dr Catrin Wyn Edwards
Dr Gillian Mcfadyen

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Perfformiad seminar: 10%
Semester Assessment Erthygl safbwynt: 1000 o eiriau 40%
Semester Assessment Papur briffio penawdau: 1500 o eiriau 50%
Supplementary Assessment 1 x 500 o eiriau Erthygl safbwynt yn lle perfformiad seminar: 10%
Supplementary Assessment 1 x 1,000 o eiriau Erthygl safbwynt: 40%
Supplementary Assessment 1 x 1,500 o eiriau Papur briffio penawdau: 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Adnabod ac esbonio goblygiadau digwyddiadau diweddar yn y byd o safbwynt gwleidyddol ryngwladol ar sail adroddiadau amdanynt yn y cyfryngau.
  2. Dangos gwybodaeth empiraidd am ystod o faterion sy’n datblygu a/neu sy’n digwydd dro ar ôl tro ac sy’n berthnasol i wleidyddiaeth ryngwladol.
  3. Adnabod ac esbonio cryfderau a gwendidau adroddiadau yn y cyfryngau ac erthyglau safbwynt, o ran eu cynnwys a’u rhesymeg.
  4. Dadansoddi a thrafod yn feirniadol y rhagdybiaethau sydd wrth wraidd adroddiadau a safbwyntiau sy’n ymddangos yn y cyfryngau.
  5. Dangos gwybodaeth sgiliau astudio o ran confensiynau cyfeirnodi, cyfeirio ac aralleirio.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i adfyfyrio'n feirniadol ar ddatblygiadau mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn. Mae'r cwricwlwm yn unigryw oherwydd caiff ei lywio gan ddigwyddiadau gwleidyddol domestig a rhyngwladol sy'n cael eu hadrodd yn y cyfryngau. Mae'r pwyslais ar newyddion a safbwyntiau sy’n dod i'r amlwg o wythnos i wythnos yn ystod y semester, ac mae'r myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau fel ymchwilwyr, meddylwyr annibynnol, cyflwynwyr ac ysgrifenwyr, ac ar yr un pryd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r cyfryngau. Dangosir yn y darlithoedd sut y mae amryw o wahanol ymchwilwyr academaidd a deallusion cyhoeddus yn ymateb i ddigwyddiadau rhyngwladol, a cheir seminarau dwys i helpu datblygu'r sgiliau a asesir yn y modiwl a hefyd i arfogi’r myfyrwyr a sgiliau cyflogadwyedd pwysig (e.e. llunio erthyglau mynegi barn i’r cyfryngau, adroddiadau briffio polisi).

Content

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno i raglen ddysgu’r Adran brofiad mewn amser go iawn o’r berthynas rhwng digwyddiadau rhyngwladol, adroddiadau yn y cyfryngau, ac astudiaethau academaidd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae’r modiwl yn tynnu ar amryw o wahanol safbwyntiau o’r tu mewn i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thu hwnt, wrth i gynnwys sy’n ymddangos yn y cyfryngau gael ei asesu’n feirniadol gan wahanol gyfranwyr. Bydd y darlithwyr yn tynnu sylw at sut y mae amrywiaeth o ymchwilwyr academaidd a deallusion cyhoeddus yn ymateb i ddigwyddiadau rhyngwladol, a cheir seminarau dwys i helpu datblygu'r sgiliau a asesir yn y modiwl. Cynllunnir y gweithgareddau yn ystod y seminarau a’r sesiynau ymarferol eraill er mwyn hybu datblygiad deallusol y myfyrwyr, ynghyd a’u sgiliau ysgrifennu cryno a’u gallu i lunio dadleuon rhesymegol a hefyd i feithrin sgiliau cyflogadwyedd sylfaenol y bydd modd iddynt droi atynt trwy gydol eu hastudiaethau.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Amherthnasol
Communication Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno’u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio’r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu sut i ysgrifennu a siarad yn glir a dweud yn ddiamwys beth yw eu nodau a’u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i bwnc trafod, byrdwn ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Cynhelir y seminarau mewn grwpiau lle dysgir yn bennaf drwy drafod ar lafar a chyflwyniadau, a bydd y pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogi a chyfathrebu. Hwylusir hyn drwy chwarae rôl mewn grwpiau lle bydd timau’n cymryd rhan yn y seminar a thu hwnt i hynny.
Improving own Learning and Performance Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydlynydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’u cyflwyniadau.
Information Technology Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno’u gwaith wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau, ar-lein drwy Blackboard. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig.
Personal Development and Career planning Bwriedir i’r modiwl hwn fireinio a phrofi sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i’r myfyrwyr yn eu gyrfaoedd, yn enwedig siarad â grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i’r hyn y mae eraill yn ei ddweud. Yn ogystal, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir y myfyrwyr bob amser i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Problem solving Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau’n un o nodau canolog y modiwl; bydd y myfyrwyr yn cyflwyno amryw o asesiadau sgiliau astudio, a thrwy hynny’n datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Caiff gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a llunio ateb i’r broblem; rhesymu; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu materion yn broblemau llai.
Research skills Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth, yn enwedig ffynonellau cyfoes yn y cyfryngau
Subject Specific Skills Mae cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol sydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a chloriannu enghreifftiau a syniadau yn ystod y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Pwyso a mesur safbwyntiau cyferbyniol yn feirniadol • Defnyddio’r confensiynau ysgrifennu a chyfeirnodi sy’n cael eu harfer yn yr Adran yn hyderus.
Team work Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydlynydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’u cyflwyniadau.

Notes

This module is at CQFW Level 4