Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain

Module Identifier
GW12920
Module Title
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Huw Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Catrin Wyn Edwards
Dr Christopher Phillips
Dr Gillian Mcfadyen

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Perfformiad seminar: 10%
Semester Assessment 1 x 1,200 o eiriau Traethawd: 40%
Semester Assessment 1 x 1,500 o eiriau Traethawd: 50%
Supplementary Assessment 1 x 500 o eiriau Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 10%
Supplementary Assessment 1 x 1,200 o eiriau Traethawd: 40%
Supplementary Assessment 1 x 1,500 o eiriau Traethawd: 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Dangos gwybodaeth o nodweddion canolog bywyd gwleidyddol ar draws ystod y wladwriaethau gwahanol yn fyd-eang. 2. Dangos ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o strwythurau a sustemau gwleidyddol sy’n weithredol mewn gwladwriaethau gwahanol. 3. Medru dangos ymwybyddiaeth o’r prif ddulliau ar gyfer astudio cynrychiolaeth a chyfranogiad gwleidyddol. 4. Dadansoddi’n feirniadol y materion pwysig sy’n wynebu gwleidyddiaeth gyfoes ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. 5. Rhoi’r sgiliau canlynol ar waith yn effeithiol: adnabod a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol: ysgrifennu (ar gyfer traethodau ac arholiadau).

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn mabwysiadu persbectif cymharol er mwyn dadansoddi a deall gwleidyddiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd yn rhoi sylw i nodweddion allweddol sustemau gwleidyddol ac yn trafod syniadau a phynciau gwleidyddol pwysig. Bydd trafodaethau damcaniaethol a chysyniadol yn cael eu cyfuno gyda enghreifftiau o achosion penodol er mwyn darparu’r myfyrwyr â’r offerynnau dadansoddol a’r wybodaeth empeiraidd a fydd yn eu caniatáu i ddeall gwleidyddiaeth gyfoes.

Content

• Mathau o sustemau gwleidyddol
• Cyfansoddiadau a sefydliadau gwleidyddol
• Etholiadau, pleidiau a sustemau pleidiol
• Cyfranogiad a chynrychiolaeth
• Gwleidyddiaeth hunaniaeth
• Pynciau gwleidyddol cyfoes

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Amherthnasol
Communication Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno’u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio’r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu sut i ysgrifennu a siarad yn glir a dweud yn ddiamwys beth yw eu nodau a’u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i bwnc trafod, byrdwn ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Cynhelir y seminarau mewn grwpiau lle dysgir yn bennaf drwy drafod ar lafar a chyflwyniadau, a bydd y pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogi a chyfathrebu. Hwylusir hyn drwy chwarae rôl mewn grwpiau lle bydd timau’n cymryd rhan yn y seminar a thu hwnt i hynny.
Improving own Learning and Performance Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydlynydd a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu hadroddiadau a’u traethodau. Mae gwaith grŵp yn rhan annatod o’r seminarau ac yn gyfle i’r myfyrwyr i adfyfyrio ar eu pen eu hunain a chyda’i gilydd ar eu perfformiad. Bydd yr angen i gyfrannu i drafodaethau grŵp yn y seminarau a chwblhau asesiadau erbyn y dyddiad cau yn hoelio sylw’r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser a’u hadnoddau’n dda.
Information Technology Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno’u gwaith wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig (megis Lexus-Nexus, Primo, Google Scholar ac ati). Disgwylir hefyd i’r myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau a fydd ar gael ar AberLearn Blackboard
Personal Development and Career planning Bydd y trafodaethau’n arbennig yn helpu i ddatblygu sgiliau llafar a sgiliau cyflwyno’r myfyrwyr ynghyd â’u sgiliau gwaith tîm. Bydd dysgu am broses cynllunio traethawd, pennu ffiniau prosiectau, mireinio a datblygu prosiectau a chwblhau’r gwaith yn cyfrannu at bortffolio’r myfyrwyr o sgiliau trosglwyddadwy. Yn benodol, mae ysgrifennu adroddiadau’n sgil trosglwyddadwy hanfodol sy’n cyfrannu at eu proffil cyflogadwyedd.
Problem solving Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau’n un o nodau canolog y modiwl; bydd y myfyrwyr yn cyflwyno traethawd, a thrwy hynny’n datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Drwy wneud gwaith ymchwil a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau seminar bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau prosiect annibynnol. Caiff gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a bwrw amcan ynglŷn ag ateb i’r broblem; ystyried achosion eithriadol; rhesymu; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Research skills Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau mewn cyfnodolion ac ati.
Subject Specific Skills Mae cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol sydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a chloriannu enghreifftiau a syniadau yn ystod y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Gallu i bwyso a mesur safbwyntiau cyferbyniol • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Team work Yn rhan o’r seminarau, bydd y myfyrwyr yn gwneud gwaith mewn grwpiau bach a gweithgareddau chwarae rôl lle bydd gofyn i’r myfyrwyr baratoi, cyflwyno a thrafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc trafod y seminar dan sylw. Mae’r trafodaethau dosbarth hyn yn rhan hanfodol o brofiad dysgu’r modiwl.

Notes

This module is at CQFW Level 4