Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig

Module Identifier
GW30000
Module Title
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Huw Lewis
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Huw Lewis
Dr Christopher Phillips
Dr Elin Royles
Dr Gillian Mcfadyen

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cynnig Ymchwil: 2000 o eiriau 15%
Semester Assessment Traethawd Hir: 10000 o eiriau 85%
Supplementary Assessment Cynnig Ymchwil: 2000 o eiriau 15%
Supplementary Assessment Traethawd Hir: 10000 o eiriau 85%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos gwybodaeth o brif ddadleuon theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
  2. Dangos dealltwriaeth gyffredinol o hanesyddiaeth theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
  3. Myfyrio’n feirniadol ar y prif ddamcaniaethau a chysyniadau yng nghyd-destun cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.
  4. Dangos gwybodaeth gyffredinol o brif awduron a’u prif weithiau.
  5. Dangos ymwybyddiaeth o syniadau am luniadaeth damcaniaethau sy’n cystadlu â’i gilydd
  6. Adnabod ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a chloriannu’r gwahaniaethau rhyngddynt.
  7. Dangos tystiolaeth o werthfawrogi’r berthynas rhwng theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol a meysydd academaidd cysylltiedig (e.e. damcaniaeth wleidyddol, damcaniaeth gymdeithasol, athroniaeth a.y.y.b.).

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn cynnig ystod o wahanol safbwyntiau i fyfyrwyr ar ddamcaniaethu’r rhyngwladol. Byddwn yn archwilio gwreiddiau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad ysgolion damcaniaethol o feddwl, rôl lensys damcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o’r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol ar gyfer darllen prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol.

Content

Yn y sesiynau hyn trafodir yr ystod eang o ddamcaniaethau a ffurfiodd ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn hanesyddol, ac sy’n weithgar ynddi ar hyn o bryd, a bydd hefyd yn edrych tuag at dueddiadau sydd ar dwf yn theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys traddodiadau canolog theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol megis Realaeth, Rhyddfrydiaeth, Lluniadaeth a’r Ysgol Seisnig a hefyd gasgliad o safbwyntiau ‘beirniadol’ megis Marcsiaeth, Ffeminyddiaeth, Ôl-drefedigaethrwydd a damcaniaethau ôl-bositifiaeth. Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arolwg drylwyr o faes damcaniaethau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac i’w paratoi ar gyfer astudiaethau pellach yn Rhan Dau.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm.
Creative Problem Solving Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno dau ddarn o waith ysgrifenedig i’w asesu, bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.

Notes

This module is at CQFW Level 6