Datganoli a Chymru

Module Identifier
GW35020
Module Title
Datganoli a Chymru
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Elin Royles
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
IP25020 or IP35020
One additional incompatible module to be added is the level 2 version: GW25020 Datganoli a Chymru
Other Staff
Dr Catrin Wyn Edwards
Dr Christopher Phillips
Dr Gillian Mcfadyen

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Semester Exam Arholiad a welir o flaen llaw: 2 Hours 2 Awr 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Exam Arholiad a welir o flaen llaw: 2 Hours 2 Awr 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth fanwl o'r prif gynigion ar gyfer datganoli i Gymru a gynigiwyd cyn 1997.
  2. Gwerthuso'n feirniadol brif nodweddion trefniadau datganoli Cymru, gan gynnwys natur cysylltiadau rhynglywodraethol.
  3. Dangos dealltwriaeth fanwl o oblygiadau llywodraethu datganoledig i wahanol agweddau ar ddiwylliant gwleidyddol ac ar gyfer llunio polisi cyhoeddus yng Nghymru.
  4. Dangos dealltwriaeth fanwl o ddeinameg cystadleuaeth etholiadol aml-lefel wrth ystyried pleidiau gwleidyddol a gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru wedi datganoli.
  5. Myfyrio'n feirniadol ar gynigion ar gyfer llywodraethiant Cymru yn y dyfodol.

Brief description

Ymysg y newidiadau gwleidyddol mwyaf arwyddocaol a phellgyrhaeddol sydd wedi herio gwladwriaethau yn y degawdau diwethaf mae’r cynydd mewn llywodraeth ranbarthol ar draws Gorllewin Ewrop a thu hwnt trwy ffurfiau fel ffederaliaeth, rhanbartholi a datganoli. Mae’r modiwl hwn yn ystyried goblygiadau ail-lunio systemau gwleidyddol drwy ystyried themâu allweddol yn gysylltiedig â datganoli a gwleidyddiaeth diriogaethol wrth astudio achos llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.

Content

Mae rhan gyntaf y modiwl yn ystyried cyd-destun hanesyddol ar gyfer datganoli a sefydlu llywodraethau rhanbarthol gan roi sylw penodol i'r daith tuag at agor Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) yn 1999. Yna mae'r modiwl yn edrych ar agweddau allweddol ar wleidyddiaeth diriogaethol a llywodraethiant ddatganoledig gan gynnwys statws cyfansoddiadol ac ymreolaeth polisi sydd gan lywodraeth ranbarthol, a natur y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng llywodraeth ganolog a sefydliadau datganoledig. Mae hefyd yn ystyried goblygiadau llywodraeth ddatganoledig ar gyfer cynrychiolaeth wleidyddol ac agweddau eraill ar ddiwylliant gwleidyddol, gan gynnwys cystadleuaeth bleidiol etholiadol aml-haenog, ac i bolisi cyhoeddus, gan gynnwys heriau polisi aml-lefel. Yna mae rhan olaf y modiwl yn myfyrio ar arwyddocâd llywodraethu datganoledig ac yn ystyried y cynigion ar gyfeiriad Cymru i'r dyfodol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Amherthnasol
Communication Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut orau i ddefnyddio'r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu hasesiadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Improving own Learning and Performance Nod y modiwl yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau.
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd iw gyflwyno drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.
Personal Development and Career planning Pwrpas y modiwl hwn yw meithrin a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Problem solving Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno traethawd i'w asesu a pharatoi ar gyfer arholiad, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu'n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Research skills Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Subject Specific Skills Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o'r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.

Notes

This module is at CQFW Level 6