Traethawd Hir

Module Identifier
GWM0060
Module Title
Traethawd Hir
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 3
Co-ordinator
Dr Jan Ruzicka
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
IPM0060
Other Staff
Dr Christopher Phillips
Dr Gillian Mcfadyen

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd Hir 14,000-15,000 o eiriau: 100%
Supplementary Assessment Traethawd Hir 14,000-15,000 o eiriau: 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Meithrin arbenigedd yn ei faes astudiaeth arbenigol.
  2. Datblygu sgiliau dadansoddol.
  3. Datblygu'r gallu i fynegi syniadau ar bapur.
  4. Datblygu sgiliau ymchwil.

Brief description

Mae'r traethawd estynedig yn elfen bwysig o raglen Meistr yr Adran. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr Meistr ymchwilio ac ysgrifennu darn o waith ymchwil annibynnol o 14,000-15,000 o eiriau erbyn 10 Medi 2004.

Aims

Nod y Traethawd Estynedig yw asesu gallu'r myfyriwr i ddadansoddi casgliad mawr o wybodaeth, ei drefnu, a'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n cynnal dadl argyhoeddiadol. Nid gofyn am waith gwreiddiol a wneir; ond ysgrifennu darn o waith ymchwil sy'n arddangos bod y myfyriwr yn gallu meddwl yn annibynnol. Neilltuir aelod o staff ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn cynghori a chynnig arweiniad i'r myfyriwr ar strwythur a dadl y thesis.

Content

Bydd cynnwys y modiwl traethawd estynedig yn wahanol i bob myfyriwr. Mae myfyrwyr yn cynnig testun ar gyfer eu traethawd estynedig a bydd hwn yn cael ei gymeradwyo gan Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwch-raddedig. I lwyddo, rhaid i draethawd estynedig gyflawni'r amcanion sydd i'w gosod yn eglur ar y cychwyn; cynnal dadl gydlynol wedi ei datblygu'n dda; a chael ei gyflwyno mewn modd ysgolheigaidd.

Module skills

Skills type

Skills details

Creative Problem Solving Bydd datrys problemau'n greadigol yn un o nodau canolog y modiwl; bydd cyflwyno'r traethawd hir yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu trwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a cynnig ateb i'r broblem; dadlau'n rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Critical and analytical thinking Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad trwy ymgymryd â'u hymchwil ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan arweiniad) cyfeiriad eu gwaith ysgrifenedig. Disgwylir i fyfyrwyr hefyd wneud ymchwil ar agweddau damcaniaethol allweddol ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygu'r dulliau hyn trwy'r traethawd hir, a defnyddio dadleuon damcaniaethol ar gyfer dehongli data.
Digital capability Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesu geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â defnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig (megis Web of Science).
Professional communication Bydd y trafodaethau yn y gweithdai yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno. Bydd dysgu am y broses o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil, fframio paramedrau'r prosiectau, a datblygu dyluniad ymchwil y traethawd hir, yn cyfrannu at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy

Notes

This module is at CQFW Level 7