Module Information

Cod y Modiwl
HA10420
Teitl y Modiwl
Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  1000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  1000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth o arwyddocad ffynonellau gwreiddiol wrth astudio hanes.

Dangos dealltwriaeth o’r amrywiaeth o fathau o ffynonellau gwreiddiol a'u defnydd.

Dadansoddi a dehongli ffynhonnell benodol a’i gosod yn ei chyd-destunau hanesyddol a hanesyddiaethol.

Disgrifiad cryno

O lawysgrifau i bapurau newydd, dogfennau swyddogol i gerddoriaeth, tros y blynyddoedd mae haneswyr wedi gwneud defnydd o amrediad eang o ffynonellau er mwyn dehongli’r gorffennol. Bwriad y modiwl yw eich cymryd ar daith trwy hanes gan ganolbwyntio ar yr union ddeunyddiau a ddefnyddiwyd gan haneswyr er mwyn deall hanes. Cyflwynir myfyrwyr i’r amrywiaeth o ffynonellau a ddefnyddir gan ein darlithwyr yn eu hymchwil eu hunain ac fe’u dysgir i’w dadansoddi. Ffynonellau gwreiddiol yw’r cliwiau a ddefnyddir gan haneswyr er mwyn creu darlun o’r gorffennol. Dysgir myfyrwyr ar y modiwl i ymwneud yn feirniadol â’r rhain a pharatoir myfyrwyr i wneud eu gwaith ditectif hanesyddol eu hunain yn y dyfodol.

Cynnwys

Cyflwyna’r modiwl hwn fyfyrwyr i amrediad o ffynonellau gwreiddiol a’u defnydd gan haneswyr. Ymhob un o’r naw gweithdy dwyawr cyflwynir myfyrwyr i ffynhonnell wreiddiol benodol, ei defnydd gan haneswyr a sut i’w dadansoddi. Bydd elfen ymarferol o weithio â deunydd gwreiddiol ymhob gweithdy yn ogystal â gwybodaeth am ffyrdd mae haneswyr wedi eu defnyddio. Adlewyrcha’r modiwl ddiddordebau ymchwil aelodau staff yr adran ac felly canolbwyntir ar y ffynonellau a ddefnyddir ganddynt. Archwilir amrediad eang o ddeunyddiau, gan gynnwys ffynonellau archifol, dogfennau personol, diwylliant materol a ffynonellau gweledol a chlyweledol ymysg eraill. O fewn gweithdai unigol astudir ffynonellau megis llythyrau, dyddiaduron, papurau newydd, caneuon, papurau personol, hanes llafar, ffilmiau a darluniau, megis posteri neu ffotograffau. Ar wahan i’r naw gweithdy bydd hefyd darlith gyflwyniadol, sesiwn ymarferol er mwyn paratoi cyflwyniadau grŵp a sesiwn llafar er mwyn asesu cyflwyniadau grwp.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datablygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn y traethawd a sgiliau cyfathrebu llafar yn y cyflwyniad grwp.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, ymchwil a chyfathrebu a fydd o gymorth iddynt adnabod eu cryfderau wrth ystyried gyrfaoedd posibl.
Datrys Problemau Adnabod problemau a ffactorau all ddylanwadu ar atebion posibl; datblygu ffyrdd creadigol o ddatrys problemau; dadansoddi manteision ac anfanteision atebion posibl.
Gwaith Tim Mae gwaith tim yn rhan hanfodol o’r gweithdai a’r aseiniadau, a disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu’n llawn i’r trafodaethau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae'r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy'n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau. Byddant hefyd yn addasu i ddadansoddi amrediad o ffynonellau.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwr yn datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffynonellau gwreiddiol a’r sgiliau i’w dadansoddi.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddadansoddi ffynonellau gwreiddiol ac ystyried eu cyd-destun. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth.
Technoleg Gwybodaeth Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4