Llunio Hanes

Module Identifier
HA20120
Module Title
Llunio Hanes
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Professor Iwan Morus
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
HY20120
Other Staff
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li
Dr Arddun Arwyn
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn
Dr Steve Thompson

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig 1: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig 2: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig 2: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig 1: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Asesu sut a pham y daeth hanes yn ddisgyblaeth academaidd modern ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth proffesiynol.
  2. Arddangos ymwybyddiaeth o’r modd y mae haneswyr wedi mynd i’r afael â chwestiynau a phroblemau hanesyddol gwahanol.
  3. Ystyried ysgrifau hanesyddol a ddefnyddir ar fodiwlau eraill mewn cyd-destun ehangach.
  4. Arddangos eu bod yn gyfarwydd â thueddiadau pwysig yn yr astudiaeth o hanes dros amser a dylanwad haneswyr ac ysgolion o feddwl penodol.
  5. Arddangos gallu i ystyried amrywiaeth o dystiolaeth wrth drafod hanesyddiaeth a defnyddio’r dystiolaeth i lunio dadleuon effeithiol

Brief description

Mae hanes fel disgyblaeth wedi newid yn gyson, gyda sawl athroniaeth, agwedd a methodoleg yn datblygu ymysg ymchwilwyr ac awduron. Bwriad y modiwl yw archwilio’r datblygiadau hyn trwy ystyried nifer o gwestiynau allweddol y mae haneswyr wedi ceisio eu hateb. Ystyrir sut mae cymdeithasau’r gorffennol wedi gweld hanes, yr amrywiol ysgolion o feddwl hanesyddol a’r modd y maent wedi ceisio ateb cwestiynau neu broblemau hanesyddol penodol.

Aims

Bwriad y modiwl yw gosod hanes academaidd modern yn ei gyd-destun deallusol a chymdeithasol. Anogir myfyrwyr i ystyried sut mae haneswyr yn mynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu hanes, gan osod sylfaen i’w gwaith mewn modiwlau sy’n fwy penodol yn eu cyfnod o astudiaeth. Ystyrir nifer o heriau y mae haneswyr wedi eu hwynebu a’r modd y mae haneswyr wedi ceisio ateb cwestiynau gwahanol. Nod y modiwl yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr hanes o gyd-destun ehangach eu disgyblaeth a’u hannog i gymhwyso’r ymwybyddiaeth hwn ar gyfer gweddill eu hastudiaethau hanesyddol.
Yn y gorffennol dysgwyd y darlithoedd yn Saesneg gyda seminarau Cymraeg. Y dymuniad yw sicrhau y dysgir y modiwl yn gyfangwbl yn Gymraeg a newid y dulliau dysgu fod bod llai o ddarlithoedd a mwy o gyfle i fyfyrwyr ystyried y prif gysyniadau mewn modd ymarferol mewn gweithdai.

Content

Darlithoedd
Ceir deuddeg darlith yn y modiwl hwn; gallant amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond byddant yn dilyn patrwm penodol. Bwriad y ddarlith gyntaf yw cyflwyno’r syniad o hanesyddiaeth. Ystyrir beth yw hanesyddiaeth a pham fod ei astudio’n bwysig. Yna ceir dwy ddarlith yn ystyried sut mae cymdeithasau’r gorffennol wedi gweld, ac wedi defnyddio, hanes wrth i’r term a’r dulliau o astudio’r pwnc ddatblygu dros amser. Ffurfia’r rhain gefndir ar gyfer cyfres o saith o ddarlithoedd a ystyria sut mae haneswyr wedi ceisio ateb cwestiynau neu broblemau hanesyddol penodol. Bydd y gyfres hon yn astudio ysgolion o feddwl hanesyddol (megis haneswyr Marcsaidd), datblygiad ffyrdd gwahanol o edrych ar y gorffennol (megis hanes merched neu rhywedd), a dulliau gwahanol a ddefnyddir gan haneswyr (megis hanes llafar). Ar ddiwedd y modiwl bydd darlith yn edrych yn benodol ar hanesyddiaeth Cymru cyn y ddarlith olaf fydd yn cloi’r modiwl.

Gweithdai a Phanel Drafod
Bydd chwech gweithdy yn y modiwl, pob un yn trafod un o’r ffyrdd y mae haneswyr wedi ceisio ateb un o’r cwestiynau neu broblemau a drafodwyd yn y darlithoedd. Bydd ffocws penodol ym mhob un ar sut mae’r syniadau wedi effeithio ar gyfnod neu bwnc penodol, ac felly gweld y cysyniadau hanesyddiaethol ar waith yn ymarferol.

Cynhelir y panel drafod ar ddiwedd y semester. Rhoddir cyfle i haneswyr amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil, sôn am sut maent wedi mynd i’r afael â phroblem neu gwestiwn hanesyddiaethol yn eu gwaith. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr weld y syniadau a drafodwyd yn y modiwl ar waith gan yr haneswyr hyn.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Trwy drafodaeth mewn gweithdai a throsglwyddo gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn traethawd ac arholiad
Improving own Learning and Performance Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad
Information Technology Caiff myfyrwyr eu hannog i ddarganfod deunydd priodol arlein ac ar systemau a geir drwy’r llyfrgell. Bydd disgwyl iddynt baratoi eu gwaith ar gyfrifiadur a defnyddio Blackboard.
Personal Development and Career planning Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Problem solving Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer gweithdau a gwaith ysgrifenedig.
Research skills Defnyddio amryw o destunau gwahanol a’u hasesu er mwyn ffurfio barn feirniadol ar gyfer y traethawd a’r arholiad.
Subject Specific Skills Datblygu ymwybyddiaeth o’r modd y mae haneswyr wedi trafod hanes yn y gorffennol a dylai hyn eu cynorthwyo wrth iddynt ddarllen ar gyfer modiwlau eraill.
Team work Cymryd rhan mewn gweithgareddau gweithdy, deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp a gwerthuso eu cyfraniad.

Notes

This module is at CQFW Level 5