Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad agored 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ailsefyll 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Arholiad agored 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall ac ystyried datblygiadau diweddar ynglŷn â'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a chred
Gwerthfawrogi agweddau cyffredinol datblygiad gwyddoniaeth ers y cyfnod modern cynnar yng nghyswllt y berthynas a mathau eraill o gred boblogaidd.
Deall cyd-destun diwylliannol gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
Adnabod a defnyddio mathau priodol o dystiolaeth hanesyddol er mwyn deall y berthynas rhwng gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
Disgrifiad cryno
Rydym fel rheol yn meddwl am wyddoniaeth fel petai ar wahân i systemau cred eraill. Rydym hefyd yn dueddol o feddwl am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd mewn termau o wrthdaro. Bydd y modiwl hwn yn dangos fod y berthynas rhwng gwyddoniaeth ac elfennau eraill o gred yn llawer mwy cymhleth na'r farn boblogaidd. Am y rhan fwyaf o'u hanes roedd gwyddoniaeth ac ystyriaethau crefyddol, er enghraifft, yn annatod. Daw'n amlwg nad oes modd gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol unrhyw system gred heb gymryd eu perthynas â systemau cred eraill i ystyriaeth. Drwy ymchwilio cysylltiadau fel hyn medrwn ddeall llawer mwy ynglŷn â datblygiad gwyddoniaeth a'i rôl yn natblygiad diwylliant gorllewinol modern.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a mathau eraill o gredoau poblogaidd rhwng y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern. Drwy arddangos y berthynas rhwng gwahanol systemau cred bydd y modiwl yn fodd i gyflwyno datblygiadau diweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth.
Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Hud a Natur
3. Dynion Duwiol
4. Duw a'r Ymoleuad
5. Diwinyddiaeth Natur
6. Esbylgiad a Chynnydd
7. Trydan Radical
8. Mesmereiddio Diwylliant
9. Edrych am Ysbrydion
10. Ysbrydeg
11. Tu mewn i'r Séance
12. Darwin, Duw, a Diwygiad
13. Darwin Ddamniol
14. Y Society for Psychical Research
15. Hud Llwyfan
16. Bydoedd Eraill
17. Grymoedd Dirgel
18. Diwedddglo
Seminarau
1. Meddwl Hudol
2. Paratoi Traethodau
3. Pwerau Meddwl a Natur
4. Darwin
5. Chwarae gyda Ysbrydion
6. Edrych yn ôl
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
| Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
| Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn â datblygiad gwyddoniaeth, crefydd a chred; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
| Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
