Traethawd Estynedig

Module Identifier
HA30340
Module Title
Traethawd Estynedig
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Professor Iwan Morus
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
HY30340
Other Staff
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li
Dr Arddun Arwyn
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn
Dr Steve Thompson

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cais ymchwil: 1500 o eiriau 10%
Semester Assessment Traethawd estynedig: (10,000 - 12,000 o eiriau) 90%
Supplementary Assessment Cais ymchwil: 1500 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Traethawd estynedig: (10,000 - 12,000 o eiriau) 90%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. trefnu a chyflwyno dadl hanesyddol yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol;
  2. datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser;
  3. arddangos deallwriaeth feirniadol o'r llenyddiaeth hanesyddol berthnasol;
  4. cynhyrchu darn o waith sy'n cydfynd o ran cyflwyniad a safonau academaidd addas.

Brief description

Cynigia rhan gyntaf y modiwl rhagbaratoad i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl Hanes er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig ar lefel israddedig. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r traethawd arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod problem diffinio testun traethawd estynedig ac ar gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir cymorth priodol ar leoli ffynonellau a llunio llyfryddiaethau. Erbyn diwedd Sesiwn 4 dewisir goruchwyliwr ar gyfer pob myfyriwr a bydd sesiynau 6-8 yn gyfarfodydd seminar mewn grwpiau bychain gyda'r goruchwylwyr. Ar ol hynny, bydd myfyrwyr yn cyfarfod a'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig 12,000 o eiriau.

Aims

Y mae'r traethawd estynedig yn elfen hanfodol yn rhaglenni anrhydedd sengl yr Adran. Galluoga myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig o ysgrifennu hanesyddol.

Content

Semester 1: wyth sesiwn:
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 3: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 4: Diffinio'r Pwnc: Gweithdy i fyfyrwyr i drafod eu syniadau, gyda chyngor oddi wrth aelodau o'r staff. (2 awr)
Sesiwn 5: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwyliwr (30 munud)
Sesiwn 6: Dadansoddi Ffynonellau (2 awr)
Sesiwn 7: Materion Hanesyddiaethol (2 awr)
Sesiwn 8: Cynllunio (2 awr)

Semester 2: dau sesiwn grwp 2 awr, un yn wythnos 2 ac un yn wythnos 8, ynghyd a chyfarfodydd unigol gyda'r goruchwyliwr.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Fe all fod yn berthnasol, petai'r traethawd ag elfen ystadegol neu fesurol amlwg, er enghraifft ar demograffeg neu agwedd ar hanes economaidd.
Communication Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd, ynghyd a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig.
Improving own Learning and Performance Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ol i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith.
Information Technology Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr.
Research skills Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl.
Subject Specific Skills Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau'r myfyrwyr wrth gynllunio darn o waith sylweddol, gan ddangos adnabyddiaeth o'r cyd-destun hanesyddiaethol ac ymwybyddiaeth o'r confensiynau cyhoeddi ar gyfer y ddisgyblaeth.
Team work Heb fod yn berthnasol

Notes

This module is at CQFW Level 6