Module Information

Cod y Modiwl
HA38620
Teitl y Modiwl
Crefydd, Hud a Gwyddoniaeth
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall ac ystyried datblygiadau diweddar ynglŷn a'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a chred.

Gwerthfawrogi agweddau cyffredinol datblygiad gwyddoniaeth ers y cyfnod modern cynnar yng nghyswllt y berthynas â mathau eraill o gred boblogaidd.

Deall cyd-destun diwylliannol gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.

Adnabod a defnyddio mathau priodol o dystiolaeth hanesyddol er mwyn deall y berthynas rhwng gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.

Disgrifiad cryno

Rydym fel rheol yn meddwl am wyddoniaeth fel petai ar wahân i systemau cred eraill. Rydym hefyd yn dueddol o feddwl am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd mewn termau o wrthdaro. Bydd y modiwl hwn yn dangos fod y berthynas rhwng gwyddoniaeth ac elfennau eraill o gred yn llawer mwy cymhleth na'r farn boblogaidd. Am y rhan fwyaf o'u hanes roedd gwyddoniaeth ac ystyriaethau crefyddol, er enghraifft, yn annatod. Daw'n amlwg nad oes modd gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol unrhyw system gred heb gymryd eu perthynas â systemau cred eraill i ystyriaeth. Drwy ymchwilio cysylltiadau fel hyn medrwn ddeall llawer mwy ynglŷn â datblygiad gwyddoniaeth a'i rôl yn natblygiad diwylliant gorllewinol modern.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a mathau eraill o gredoau poblogaidd rhwng y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern. Drwy arddangos y berthynas rhwng gwahanol systemau cred bydd y modiwl yn fodd i gyflwyno datblygiadau diweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth.

Cynnwys

Darlithiau:
1. Cyflwyniad
2. Natur a Hud
3. Dynion Duwiol
4. Duw a'r Ymoleuad
5. Diwinyddiaeth Natur
6. Esblygiad a Chynnydd
7. Trydan Radical
8. Mesmereiddio Diwylliant
9. Edrych am Ysbrydion
10. Ysbrydeg
11. Tu Fewn i'r Séance
12. Darwin, Duw, a Diwygiad
13. Darwin Ddamniedig
14. Y Society for Psychical Research
15. Hud Llwyfan
16. Bydoedd Eraill
17. Grymoedd Dirgel
18. Dweddglo

Seminarau
1. Meddwl Hudol
2. Paratoi Traethodau
3. Pwerau Meddwl a Natur
4. Darwin
5. Chwarae gyda Ysbrydion
6. Edrych yn ôl

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth am ffononellau a llenyddiaeth hanesyddol ynglyn a'r berthynas gymleth rhwng crefydd, hud, a gwyddoniaeth.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6