Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800

Module Identifier
HC11120
Module Title
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Eryn White
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
WH11720
Other Staff
Dr Yi Li
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Arholiad amser rhydd: 1000 o eiriau 50%
Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Arholiad amser rhydd: 1000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth o brif themâu hanes Cymru cyn datblygiad diwydiant sylweddol.
  2. Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau ym maes hanes Cymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar.
  3. Myfyrio ar a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol am Gymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar.
  4. Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig wrth drafod y cyfnod.

Brief description

Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themau hanes Cymru cyn datblygiad diwydaint sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wald o gyfnod grym y tywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Rhoddir sylw drwy gydol y cwrs i ymateb pobl Cymru i'r newidiadau o ran awdurdod a llywodraeth.

Aims

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themau pwysig yn hanes Cymru'r canol oesoedd diweddar a'r cyfnod modern cynnar

Content

DARLITHOEDD
1. Rhagarweiniad
2. Cymru’r Oesoedd Canol: gwlad ranedig?
3 Tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd
4. Concwest 1282
5. Canlyniadau’r Goncwest
6. Herio’r goncwest: Owain Glyndŵr
7. Disgwyl ‘y Mab Darogan’
8. Y Tuduriaid ac Uno Cymru a Lloegr
9. Hunaniaeth wedi’r Uno: y Dadeni a pharhad yr iaith Gymraeg
10. Hunaniaeth wedi’r Uno: Y Diwygiad Protestannaidd
11. Glynu wrth y gorffennol: arferion a chredoau poblogaidd
12. Hunaniaeth newydd?: twf anghydffurfiaeth grefyddol
13. Hen hunaniaeth?: Cymru, y frenhiniaeth a’r Rhyfel Cartref
14. Hen hunaniaeth?: adfer awdurdod
15. Seiliau’r Gymru fodern: addysg a llythrennedd yn y ddeunawfed ganrif
16. Seiliau’r Gymru fodern: y Diwygiad Methodistaidd
17. Seiliau’r Gymru fodern: adfywiad diwylliannol y ddeunawfed ganrif
18 Creu Cymreictod?

SEMINARAU
Seminar 1: Llywelyn ap Gruffudd
Seminar 2: Gwrthryfel Glyndŵr
Seminar 3: Cymru a’r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg
Seminar 4: Y Diwygiad Methodistaidd
Seminar 5: Adfywiad Diwylliannol y Ddeunawfed Ganrif

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Improving own Learning and Performance Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Information Technology Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.
Personal Development and Career planning Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Problem solving Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Research skills Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol
Subject Specific Skills Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Team work Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp

Notes

This module is at CQFW Level 4