Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999
- Module Identifier
- HC11820
- Module Title
- Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Steve Thompson
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Yi Li
- Dr Eryn White
- Dr Arddun Arwyn
- Dr Steve Thompson
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Arholiad agored: (amser rhydd) 1000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Arholiad agored: (amser rhydd) 1000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth o’r datblygiadau pwysicaf yn hanes Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.
- Asesu amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol yn berthnasol i Gymru fodern.
- Dangos dealltwriaeth o'r hanesyddiaeth a'r trafodaethau dros themâu pwysig yn hanes cymdeithasol, crefyddol ac economaidd Cymru.
- Dod o hyd a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig tra'n trafod y cyfnod.
Brief description
Mae’r modiwl hon yn cyflwyno’r prif ddatblygiadau yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae darlith ragarweiniol yn gosod fframwaith ar gyfer y modiwl ac mae’r darlithiau canlynol yn ystyried themâu megis y chwyldro diwydiannol, trefoli, rhywedd a’r berthynas rhwng y rhywiau, gwleidyddiaeth a hunaniaeth genedlaethol, pobl Cymru tu allan i Gymru, a phrotest cymdeithasol.
Aims
Bwriad y modiwl yw cyflwyno’r prif ddatblygiadau yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn ogystal â modiwl arall sy’n olrhain hanes Cymru o’r cyfnod canoloesol i’r ddeunawfed ganrif, mae’n darparu sail i astudiaethau ehangach a mwy manwl o hanes Cymru yn Rhan Dau.
Content
Darlithoedd:
Rhan 1: Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Hir, 1800-1914
1. Rhagarweiniad: Cymru Fodern
2. Gwneud Byd Newydd: Y Chwyldro Diwydiannol, 1800-1914
3. Bydoedd Cyferbyniol: Tref a Chefn Gwlad, 1800-1914
4. Gwneud Dynion a Menywod: Rhywedd yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
5. Gwleidyddiaeth a Phobl, 1800-1914
6. Dychmygu Cenedl: Hunaniaeth Genedlaethol a’r Cyfryngau, 1800-1914
7. Y Cymry tu allan i Gymru
8. Chwaraeon, Hamdden a Chymdeithas
9. Iaith a Chrefydd
Rhan 2: Yr Ugeinfed Ganrif Fyr, 1914-1999
10. Dirwasgiad a Dad-ddiwydiannu yn yr Ugeinfed Ganrif
11. Rhyfel a Chymdeithas yn yr Ugeinfed Ganrif
12. Bywyd Trefol a’r Cefn Gwlad yn yr Ugeinfed Ganrif
13. Dilyniant a Newid: Menywod a Dynion yn yr Ugeinfed Ganrif
14. Gwleidyddiaeth, Ideoleg a’r Byd
15. ‘Cymru Llafur’ a Datganoli
16. Protest a Mudiadau Cymdeithasol
17. Byw a Marw yng Nghymru Fodern
18. Casgliad
Seminarau
1. Sesiwn rhagarweiniol: Gwneud Cymru Fodern
2. Protest a Gwleidyddiaeth
3. Rhyfel a Chof
4. Cymru ac Ewrop
5. Iaith a Hunaniaeth
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Defnyddio deunydd ystadegol mewn ffordd synhwyrol ac effeithiol yn eu gwaith ysgrifenedig ar faterion megis yr economi, demograffi a materion eraill. |
| Communication | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
| Improving own Learning and Performance | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
| Information Technology | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
| Problem solving | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
| Research skills | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
| Team work | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
