Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417

Module Identifier
HC20120
Module Title
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Rhun Emlyn
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
WH20120 or WH30120
Other Staff
Dr Yi Li

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos dealltwriaeth o’r prif ddatblygiadau yng ngwleidyddiaeth a hunaniaeth Cymru yn yr Oeosedd Canol.
  2. Datblygu’r gallu i asesu cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol am hanes Ynysoedd Prydain rhwng 1039 a 1417.
  3. Dadansoddi mathau gwahanol o ffynonellau gwreiddiol.
  4. Defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol i lunio dadleuon yn llafar (heb ei asesu) ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys mewn modd cryno.

Brief description

Gwelwyd newidiadau dramatig yng Nghymru rhwng teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn ac Owain Glyndŵr, cyfnod a oedd hefyd yn un o chwyldro cyffredinol yn Ynysoedd Prydain. Bydd y modiwl hwn yn archwilio sut datblygodd pŵer a hunaniaeth y Cymry dros y canrifoedd hyn, ond mae hefyd yn dweud hanes ehangach Ynysoedd Prydain. Wrth i frenhinoedd a thywysogion Cymreig geisio atgyfnerthu ac ehangu eu pŵer roedd rhaid iddynt ystyried eu perthynas â’u cynghreiriaid a’u gelynion yn Iwerddon, Lloegr a’r Alban. Archwilir datblygiadau cyfochrog yn yr Alban ac Iwerddon a sut roeddent oll yn gweithredu yng nghysgod pŵer cynyddol yr ‘Ymerodraeth Seisnig Gyntaf’. Rhoddir sylw hefyd i’r cysyniad o ‘Brydain’: beth oedd yn golygu i wahanol bobl a sut y dymunai gwahanol frenhinoedd ei newid at y dyfodol. Dyma gyfnod a siapiodd y berthynas rhwng y bedair cenedl am ganrifoedd i ddod; trwy ei archwilio byddwn yn datblygu dealltwriaeth well o’r berthynas wleidyddol bresennol rhwng Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban.

Aims

Content

Darlithoedd
1. Cyflwyniad: brenhinoedd Prydain a brenhinoedd y Brytaniaid
2. Pobl, daearyddiaeth a phŵer
3. Gruffudd ap Llywelyn, Mercia a’r Llychlynwyr
4. Dyfodiad y Normaniaid
5. Gruffudd ap Cynan: brenin Cymreig a môr-leidr Llychlynaidd
6. Owain Gwynedd, David I ac ‘adferiadau cenedlaethol’
7. Harri II a goresgyniad (Cymreig?) Iwerddon
8. Esgobion, seintiau ac ysgolheigion
9. Yr Arglwydd Rhys a hunaniaeth Cymru
10. Llywelyn ab Iorwerth ac Alexander II
11. Llywelyn ap Gruffudd a thywysogaeth Cymru
12. Edward I a’r ‘Ymerodraeth Seisnig Gyntaf’
13. Mudo a choloneiddio
14. Masnach ac economi
15. Gwrthryfeloedd a chynghreirio ‘Celtaidd’
16. Llanw a thrai ymerodraeth
17. Gwrthryfel Glyndŵr, yr Alban a Ffrainc
18. Casgliad: tuag at bedair cenedl?

Seminarau
Bydd chwech seminar, pob un yn edrych ar ffynhonnell wreiddiol gwahanol:
1. Brut y Tywysogyon
2. Cyfraith Hywel Dda
3. Historia Gruffudd ap Cynan
4. Gerallt Gymro
5. Dogfennau’r tywysogion
6. Barddoniaeth

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Creative Problem Solving Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Critical and analytical thinking Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Digital capability Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o TalisAspire a Blackboard.
Professional communication Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad.
Real world sense Trwy archwilio'r pwnc bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o gefndir y berthynas bresennol rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.
Reflection Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad

Notes

This module is at CQFW Level 5