Module Information

Cod y Modiwl
HP33120
Teitl y Modiwl
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Co-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad o ddogfen  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Dadansoddiad o ddogfen  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos dealltwriaeth ddofn o hanes Gwrthryfel Glyndŵr a natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar.

Asesu cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol am Wrthryfel Glyndŵr.

Dadansoddi yn feirniadol amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif.

Defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol i lunio dadleuon yn llafar (heb ei asesu) ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Rydym ni i gyd wedi clywed am Owain Glyndŵr a’i wrthryfel, ac mae’r baneri coch a melyn yn rhai cyfarwydd ar hyd a lled Cymru. Ystyrir Glyndŵr fel un o’n prif arwyr fel cenedl, ond faint ydym yn wybod go iawn am y dyn a’i wrthryfel? Pa mor debyg oedd y gwrthryfel i’r darlun poblogaidd sydd ohono, a pha mor arwyddocaol oedd Owain Glyndŵr mewn gwirionedd? Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar y gwrthryfel gan herio syniadau am y cyfnod a dangos mor bwysig yw deall y gwrthryfel i ddeall hanes Cymru ganoloesol. Ceir pwyslais yn arbennig ar ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol. Yn semester un, byddwn yn dilyn hanes y gwrthryfel yn gronolegol gan osod y sylfaen ar gyfer semester dau pan fyddwn yn canolbwyntio ar themâu a chwestiynau allweddol.

Nod

1. Cyflwyno hanes a chysyniadau allweddol am Wrthryfel Glyndŵr mewn dyfnder.
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar.

Cynnwys

Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un:
1. Cyflwyniad a ffynonellau allweddol
2. Gwrthdaro a chydfyw: Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg
3. Glyndyfrdwy a Chonwy: cynnau (ac ail-gynnau) y fflam
4. Brynglas ac Amwythig: gwrthryfel cenedlaethol
5. Machynlleth a Harlech: sefydlu tywysogaeth
6. Cynghreirio â Ffrainc
7. Pwll Melyn ac wedyn: y rhod yn troi
8. Diwedd y dywysogaeth
9. Gruffudd Young a Maredudd: parhad y gwrthryfel
10. Gêm argyfwng Gwrthryfel Glyndŵr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Ddim yn briodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6