Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel
- Module Identifier
- HP33120
- Module Title
- Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Rhun Emlyn
- Reading List
- View on Aspire
- Co-Requisite
-
HP33220
- Other Staff
- Dr Yi Li
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Dadansoddiad o ddogfen: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Dadansoddiad o ddogfen: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Arddangos dealltwriaeth ddofn o hanes Gwrthryfel Glyndŵr a natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar.
- Asesu cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol am Wrthryfel Glyndŵr.
- Dadansoddi yn feirniadol amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif.
- Defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol i lunio dadleuon yn llafar (heb ei asesu) ac yn ysgrifenedig.
Brief description
Rydym ni i gyd wedi clywed am Owain Glyndŵr a’i wrthryfel, ac mae’r baneri coch a melyn yn rhai cyfarwydd ar hyd a lled Cymru. Ystyrir Glyndŵr fel un o’n prif arwyr fel cenedl, ond faint ydym yn wybod go iawn am y dyn a’i wrthryfel? Pa mor debyg oedd y gwrthryfel i’r darlun poblogaidd sydd ohono, a pha mor arwyddocaol oedd Owain Glyndŵr mewn gwirionedd? Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar y gwrthryfel gan herio syniadau am y cyfnod a dangos mor bwysig yw deall y gwrthryfel i ddeall hanes Cymru ganoloesol. Ceir pwyslais yn arbennig ar ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol. Yn semester un, byddwn yn dilyn hanes y gwrthryfel yn gronolegol gan osod y sylfaen ar gyfer semester dau pan fyddwn yn canolbwyntio ar themâu a chwestiynau allweddol.
Aims
1. Cyflwyno hanes a chysyniadau allweddol am Wrthryfel Glyndŵr mewn dyfnder.
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar.
Content
Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un:
1. Cyflwyniad a ffynonellau allweddol
2. Gwrthdaro a chydfyw: Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg
3. Glyndyfrdwy a Chonwy: cynnau (ac ail-gynnau) y fflam
4. Brynglas ac Amwythig: gwrthryfel cenedlaethol
5. Machynlleth a Harlech: sefydlu tywysogaeth
6. Cynghreirio â Ffrainc
7. Pwll Melyn ac wedyn: y rhod yn troi
8. Diwedd y dywysogaeth
9. Gruffudd Young a Maredudd: parhad y gwrthryfel
10. Gêm argyfwng Gwrthryfel Glyndŵr
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Ddim yn briodol |
| Communication | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
| Improving own Learning and Performance | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
| Information Technology | Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
| Problem solving | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
| Research skills | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
| Subject Specific Skills | Ddim yn briodol |
| Team work | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
