Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol

Module Identifier
HP33220
Module Title
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Rhun Emlyn
Reading List
View on Aspire
Co-Requisite
HP33120
Other Staff
Dr Yi Li

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos dealltwriaeth ddofn o Wrthryfel Glyndŵr a'i ddylanwad hyd heddiw.
  2. Asesu cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol am gymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol diweddar.
  3. Dadansoddi yn feirniadol amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif.
  4. Defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol i lunio dadleuon yn llafar (heb ei asesu) ac yn ysgrifenedig.

Brief description

Wedi deall hynt a helynt y gwrthryfel yn semester un, byddwn yn cymryd cam yn ôl yn semester dau gan ganolbwyntio ar themâu a chwestiynau allweddol sydd yn cael eu trafod gan haneswyr. A oedd Cymru yn drefedigaeth (‘colony’)? Faint o gefnogaeth dderbyniodd y gwrthryfel, a pham? Beth yw arwyddocâd y gwrthryfel i Gymru heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain? Trwy drafod y cwestiynau hyn byddwn yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r gwrthryfel, o hanes canoloesol Cymru’n gyffredinol ac, o bosib, y Gymru yr ydym ni’n byw ynddi heddiw hefyd. Bydd trip hefyd yn rhan hon y modiwl i leoliadau sydd â chysylltiad â’r gwrthryfel.

Aims

1. Cyflwyno hanes a chysyniadau allweddol am Wrthryfel Glyndŵr mewn dyfnder.
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar.

Content

Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un. Bydd pob un yn edrych ar gwestiwn allweddol am y gwrthryfel, megis:
• A oedd Cymru’r Oesoedd Canol diweddar yn drefedigaeth (‘colony’)?
• Faint o gefnogaeth dderbyniodd y gwrthryfel, a pham?
• Beth oedd rôl yr Eglwys yn y gwrthryfel?
• Sut oedd y gwrthryfel yn gwneud defnydd o hanes i gefnogi ei amcanion?
• Beth oedd canlyniadau’r gwrthryfel i Gymru’r bymthegfed ganrif a thu hwnt?
• Beth yw arwyddocâd y gwrthryfel i Gymru heddiw?

Yn lle un o’r seminarau bydd trip i leoliadau sydd â chysylltiad â’r gwrthryfel.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ddim yn briodol
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Information Technology Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Subject Specific Skills Ddim yn briodol
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.

Notes

This module is at CQFW Level 6