Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd

Module Identifier
MT10110
Module Title
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Professor Simon Cox
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite

Mathemateg Safon Uwch (neu gyfartal).
Other Staff
Professor Simon Cox
Dr Tudur Davies

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. 20%
Semester Exam Arholiad semester: 2 Hours (Arholiad Ysgrifenedig) 2 Awr 80%
Supplementary Assessment Prawf Blackboard: 20%
Supplementary Exam Arholiad atodol: 2 Hours Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr 80%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Adnabod cyfeiriadau syml yn ddadansoddiadol a geometrig;
  2. Darganfod hafaliadau sythlinau a dwyranyddion onglog;
  3. Mesur hyd tangiadau i gylch ac adnabod a yw dau gylch yn iawn-onglog;
  4. Mesur hafaliadau systemau cylch cyfechelin;
  5. Adnabod y math o ffurf gonig o ddadansoddi ei hafaliad;
  6. Mesur hafaliadau tangiadau a sythlinau conigau;
  7. Defnyddio fectorau i ddatrys problemau elfennol mewn geometreg;
  8. Mynegi cyfesurynnau pwynt cyffredinol cromliniau arbennig yn barametrig;
  9. Mesur lluosymiau sgalar a fector o ddau fector;
  10. Mesur lluosymiau sgalar a fector triphlyg o dri fector;
  11. Mesur hafaliadau fector llinellau a phlanau;
  12. Mesur yr ongl rhwng dau blan a'r pellter byrraf rhwng pwynt a phlan;
  13. Datrys problemau elfennol mewn cinemateg.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o syniadau hanfodol geometreg - pwyntiau, llinellau, cromliniau, planau ac arwynebau - mewn dull dadansoddiadol, yn defnyddio iaith geometreg gyfesurynnol. Caiff conigau eu dosbarthu yn nhermau eu hafaliadau a nodweddion geometreg. Mae'r cysyniad o dangiad a sythlin hefyd yn cael ei ddatblygu.

Aims

I ddatblygu dealltwriaeth o geometreg a'r allu i ystyried problemau geometrig yn ddadansoddiadol, felly hefyd y ffordd arall.

Content

1. GEOMETREG GYFESURYNNOL YN Y PLAN REAL: Y linell syth. Loci. Conigau - ffurfau penodol a'r ffurf cyffredinol. Adnabod canol, foci ac echelin hwyaf
a'r echelin leiaf. Achosion o ddirwyiad. Hafaliad gyffredinol y tangiad. Teuleuoedd o linellau a conigau. Cromlinau plan parametrig. Tangiadau a'r defnydd o ddeilliadau. Cyfesurynnau pegynlinol.
2. CYFLWYNIAD I DDULLIAU FECTOR: Fectorau uned. Lluosymiau sgalar a fector, onglau. Fectorau safle. Fectorau annibynnol llinol. Hafaliadau fector o linellau a phlanau. Cyflwyniad i ginemateg.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Creative Problem Solving Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Digital capability Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Professional communication Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Subject Specific Skills Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Notes

This module is at CQFW Level 4