Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 1 Awr Asesiad atodol Arholiad ysgrifenedig (cydamserol gyda'r arholiad atodol) 1 Awr | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad semester Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
| Asesiad Semester | Gwaith Cwrs Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Defnyddio gweithrediadau a nodiant setiau i ddisgrifio digwyddiadau a mesur eu tebygolrwydd.
Mesur tebygolrwydd yn defnyddio canlyniadau llawn mor debygol mewn gofodau sampl cyfyngedig a pharhaol.
Defnyddio ffwythiant dosraniad cronnol (cdf) hapnewidyn i fesur tebygolrwydd a chanraddau.
Darganfod y cdf ar gyfer trawsnewidiadau syml o egwyddorion cyntaf.
Disgrifio y berthynas rhwng y cdf a (i) y ffwythiant mas tebygolrwydd (pmf) a (ii) y ffwythiant dwysedd tebygolrwydd (pdf).
Braslunio a disgrifio y pmf a pdf.
Mesur y cymedr a'r amrywiant o ddosraniadau syml a'r ffwythiannau llinellol o hapnewidyn.
Esbonio'r syniad o debygolrwydd amodol a'i ddefnyddio i fodelu sefyllfaoedd mwy cymhlyg.
Defnyddio'r cysyniad o annibyniaeth mewn achosion syml yn cynnwys dilyniannau diddiwedd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen mewn tebygoleg ac yn rhagarweiniad angenrheidiol i unrhyw astudiaeth ddilynol o ystadegau mathemategol ac ymchwil weithredol. Rhoddir pwyslais ar fodelu wir sefyllfaoedd, gan gynnwys cyfrifon tebygolrwydd wedi'u seilio ar broblemau ystadegol. Bydd y technegau mathemategol sydd eu hangen yn cael eu cyflwyno neu eu hadolygu fel rhan annatod o'r cwrs.
Nod
I gyflwyno myfyrwyr i'r technegau angenrheidiol ar gyfer modelu a deall hap ac i ddatblygu'r allu i fesur tebygolrwydd a momentau o hapnewidion.
Cynnwys
2. CANLYNIADAU YR UN MOR DEBYGOL: Diffinio tebygolrwyddau ar ofodau sampl gyda canlyniadau yr un mor debygol a'u gilydd: arwahanol a di-dor. Trynewidiadau a chyfuniadau. Ffwythiannau o hapnewidynnau (monoton yn unig).
3. TEBYGOLRWYDD AMODOL: Diffiniad a chymhwysiadau syml. Diagramau canghennog; cymhwysiadau anffurfiol o Ddeddf Cyfanswm Tebygolrwyddau a Theorem Bayes; defnydd mewn problemau cyfuniadol; samplu gyda/hef amnewid. Annibynniaeth. Treialon Bernoulli, gemau anfeirdrol.
4. DOSRANIADAU TEBYGOLRWYDD: Ffwythiannau dosraniad cronnus: defnydd er mwyn cyfrifo tebygolrwyddau; canolrifau, canraddau; trawsnewidiadau (monoton) syml.
5. DOSRANIADAU ARWAHANOL: ffwythiannau mas tebygolrwydd; braslunio; enghraifftiau yn cynnwys Binomial a Geometrig.
6. DOSRANIADAU DI-DOR: Ffwythiannau dwysedd tebygolrwydd; braslunio; enghreifftiau yn cynnwys Pareto, Esbonyddol.
7. MOMENTAU: Gwerthoedd disgwyliedig X a ffwythiannau o X; cyfrifiadau ar gyfer dosraniadau syml; cymedr ac amrywiant aX + b.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Cymhwysedd a Gwydnwch: Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Cyfathrebu Proffesiynol: Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datrys Problemau yn Greadigol: Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Medrusrwydd Digidol: Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau penodol i’r pwnc: Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
