Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 1 Awr Asesiad Atodol Arholiad ysgrifenedig (cydamserol gyda'r arholiad atodol) 1 Awr | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol Arholiad Ysgrifenedig | 80% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
| Asesiad Semester | Gwaith Cwrs Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Defnyddio'r nodiant ar gyfer setiau a mapiadau;
Llunio profion gan ddefnyddio'r Egwyddor o Anwythiad Mathemategol;
Defnyddio'r Theorem Binomial ar gyfer esbonydd cyfanrif mewn amryw o sefyllfaoedd;
Darganfod symiau cyfresi rhifyddol a geometrig;
Ymdrin â rhifau cymhlyg a defnyddio Theorem DeMoivre;
Defnyddio'r Algorithm Rhannu ar gyfer polynomialau;
Deillio hafaleddau ar gyfer gwreiddiau a chyfernodau polynomialau.
Disgrifiad cryno
.Mae'r modiwl hwn yn dysgu'r algebra sy'n hanfodol i astudio Mathemateg.
Nod
I gyflwyno myfyrwyr i'r syniadau o algebra trwy astudio rhifau cymhlyg a pholynomialau.
Cynnwys
2. SYMIAU MEIDRAIDD: Theorem Binomial, cyfresi rhifyddol a geometrig. Egwyddor Anwythiad Mathemategol.
3. RHIFAU CYMHLYG: Dadansoddiad geometrig. Theorem DeMoivre.
4. POLYNOMIALAU: Yr Algorithm Rhannu a Theorem y Gweddill. Ffwythiannau cymesur. Y berthynas rhwng israddau polynomial a'i gyfernodau.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Sgiliau pwnc penodol | Yn ehangu profiadau'r myfyrwyr mewn pynciau mathemategol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
