Module Information
Cod y Modiwl
MT10700
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Cynllunio Gyrfa Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd 400 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaglennu python 200 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Bywgraffiad Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd 1000 Words | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Unigol ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud | 20% |
| Asesiad Semester | Bywgraffiad Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd 1000 Words | 20% |
| Asesiad Semester | Rhaglennu python 200 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Prawf Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Unigol ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud | 20% |
| Asesiad Semester | Cynllunio Gyrfa Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd 400 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gweithio’n unigol i ymchwilio a chyflwyno rhyw bwnc mewn Mathemateg.
Defnyddio pecynnau meddalwedd er mwyn creu dogfennau syml fel Curriculum Vitae a chyflwyniad.
Gwerthuso profion mewn Mathemateg yn feirniadol.
Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiadau i gyflogwr posib.
Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn datrys problemau mathemategol a delweddu graffiau.
Disgrifiad cryno
Ar y modiwl hwn fe fydd myfyriwr yn trafod y sgiliau a’r paratoad sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau gradd mewn Mathemateg yn llwyddiannus. Fe fydd y rhain yn cael eu cyflwyno i bwnc pwysig o fathemateg, fel profion ffurfiol neu ddatrys problemau. Fe fydd myfyrwyr yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr ar bwnc mewn Mathemateg.
Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i raglennu cyfrifiadurol trwy ystod o becynnau: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyniadau, taenlenni a rhaglennu ffurfiol yn Python. Byddwn yn defnyddio cysyniadau syml o fathemateg er mwyn arddangos defnydd syml o feddalwedd a’r sgiliau cysylltiedig yn y gweithle.
Bydd y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn cynnig rhaglen ymwybyddiaeth gyrfaoedd, lle bydd pob myfyriwr yn paratoi llythyr cyflwyniad ac yn sefydlu Curriculum Vitae arlein. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau er mwyn ymchwilio i’r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion yn eu maes, a’r berthynas rhwng y sgiliau maent yn ei ddatblygu a’r gyrfaoedd hynny.

Cynnwys
Sgiliau Astudio ar gyfer Mathemategwyr: trafodaeth ar amgylcheddau dysgu a ffyrdd gwahanol o gyflwyno Mathemateg.
Pecynnau meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno (Latex, PowerPoint):
Cyflwyniad, dogfennau syml, fformatio, mynegiadau mathemategol, cyflwyniadau.
Prawf mathemategol: gwerthusiad critigol o ddulliau profi.
Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi llythyr cyflwyniad a
CV, wedi ei redeg gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Taenlenni: trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin a delweddu set ddata (mawr).
Rhaglennu: cyflwyniad sylfaenol i python ac egwyddorion rhaglennu cyfrifiadurol, gyda pheth delweddu.

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Disgwylir i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau yn ystod y gweithgareddau yn y dosbarth |
| Cyfathrebu proffesiynol | Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau ysgrifenedig a’r CV. Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebi ar lafar yn y cyflwyniadau. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datblygir sgiliau datrys problem yn y modiwl wrth ymdrin â phrofion, taenlenni a’r aseiniadau rhaglennu, ac wrth baratoi cyflwyniad ar bwnc mewn Mathemateg. |
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn defnyddio pecynnau meddalwedd i gynhyrchu dogfennau syml, gweithio gyda thaenlen i wneud amryw o gyfrifiadau, cynhyrchu crynodebau, delweddu'r data a'r canlyniadau, ac ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol i ddatrys problemau Mathemateg. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Mae sgiliau dadansoddol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd ag ymchwil ar gyfer yr aseiniad bywgraffiad a’r cyflwyniad unigol, ac wrth ymchwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwahanol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Datblygir sgiliau mathemategol wrth werthuso profion. Bydd cysyniadau a thechnegau rhifiadol/delweddu yn cael eu hystyried mewn cysylltiad â thaenlenni a rhaglennu cyfrifiadurol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4