Algebra Llinol
- Module Identifier
- MT21410
- Module Title
- Algebra Llinol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Robert Douglas
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
MP11010 or MT11010
- Exclusive (Any Acad Year)
-
MA21410
- Other Staff
- Dr Gwion Evans
- Dr Robert Douglas
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Exam | 2 Hours (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
| Supplementary Exam | 2 Hours (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr: fod yn gallu, 1. darganfod os yw strwythur algebraig yn ofodau fector; 2. cymhwyso meini prawf ar gyfer isofodau o ofod fector; 3. darganfod meysydd ar gyfer gofodau fector; 4. profi a chymhwyso cynigion yn theori gofodau fector; 5. disgrifio'r cysyniad o drawsffurfiad llinol; 6. cyfrifo matricsau sy'n cynrychioli trawsffurfiadau llinol; 7. darganfod ranc a diddymdra trawsffurfiadau llinol a matricsau; 8. gwneud cyfrifiadau mewn gofodau lluoswm mewnol; 9. gwneud diagnosis ar fatricsau, yn enwedig matricsau cymesur.
Brief description
n y modiwl yma mae'r cysyniad o ofod fector yn cael ei gyflwyno. Mae hwn yn datblygu syniadau a gyflwynwyd yn y cwrs yn y flwyddyn gyntaf. Yn arwynebol gellir gweld ei bod yn bosib uno gwahanol broblemau mewn mathemateg. Er enghraifft, mae datrys systemau o hafaliadau llinol a hafaliadau differol llinol fwy neu lai yr un broses ac y gellir eu delio'n gydamserol yn y cyd-destun yma.
Aims
I ddatblygu technegau theori matrics sydd wedi'u defnyddio yng nghyrsiau blwyddyn gyntaf mewn modd haniaethol. I gyflwyno'r cysyniadau o ofodau fector a mapio rhwng gofodau fector. I ddatblygu ymhellach dechnegau ar gyfer cyfrifo mewn gofodau fector ac i ddangos taw dyma'r fframwaith gywir i ystyried problemau llinol mewn modd unedig.
Content
1. GOFODAU FECTOR: diffiniad ac enghreifftiau, is-ofodau, setiau pontio, annibyniaeth llinol, maes a dimensiynau.
2. TRAWSFFURFIADAU LLINOL: Diffiniad ac enghreifftiau, matrics trawsffurfiad llinol, newid maes. Cnewyllyn a delwedd trawsffurfiad llinol, ranc a diddymdra. Y theorem dimensiwn.
3. LLUOSWM MEWNOL GOFODAU: Diffiniad ac enghreifftiau. Orthogonoledd a'r broses orthogonoledd Gram-Schmidt.
4. CROESLINIO MATRICSAU: Gwerth-eigen ac fectorau-eigen, hafaliad nodweddiadol. Croeslinio matricsau.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu. |
| Co-ordinating with others | Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau. |
| Creative Problem Solving | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Digital capability | Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau. |
| Professional communication | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Subject Specific Skills | Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
