Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau
- Module Identifier
- MT25220
- Module Title
- Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Tudur Davies
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
MA11110 or MT11110
- Exclusive (Any Acad Year)
-
MA25220
- Exclusive (Any Acad Year)
-
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CC24520 or CS24520
- Other Staff
- Dr Tudur Davies
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Gwaith Cwrs: Taflenni Gwaith Semester 1 (30%) Aseiniadau Semester 2 (20%) | 50% |
| Semester Exam | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Hours 2 Awr | 50% |
| Supplementary Assessment | Gwaith Cwrs: Taflen Waith Atodol | 50% |
| Supplementary Exam | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Hours 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Arddangos gallu i ysgrifennu rhaglenni byr yn Python
- Arddangos ymwybyddiaeth o ymarfer da wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer cyfrifiant rhifiadol
- Llunio polynomial neu sblein sy'n rhyngosod set o ddata
- Deillio a chymhwyso dulliau rhifiadol safonol ar gyfer integru, a dadansoddi cyfeiliornad y dulliau yma
- Darganfod israddau hafaliad aflinol gan ddefynyddio dulliau rhifiadol safonol, ac arddangos ymwybyddiaeth o drefn cydgyfeiriant y dulliau yma
- Cyfrifo brasamcanion rhifiadol o ddatrysiadau i broblemau gwerth cychwynnol gan ddefynddio dulliau un cam, ac arddangos ymwybyddiaeth o gydgyfeiriant a sefydlogrwydd y dulliau yma.
Brief description
Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna’n cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal â dadansoddiad o’r technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o’r dulliau rhifiadol.
Aims
I addysgu sgiliau rhaglennu i fyfyrwyr ac eu cyflwyno i ddadansoddiad rhifiadol a’i gymwysiadau.
Content
Semester 1:
1. CYFLWYNIAD I PYTHON: Mathau, newidynnau, gosodiadau “if”, “for” a “while”. Y dehonglydd ac enrhifiad o fynegiadau syml. Golygu, arbed a llwytho cod.
2. STRWYTHURAU DATA YN PYTHON: Rhestrau ac araeau numpy.
3. FFWYTHIANNAU YN PYTHON. Diffinio a galw ffwythiant.
4. TREFNU COD PYTHON. Cynhyrchu dogfennaeth, darganfod a delio ag eithriadau, trefnu cod i fodiwlau.
5. PLOTIO YN PYTHON: Trin data a plotio canlyniadau
Semester 2:
1. RHYNGOSODIAD POLYNOMIAL: Fformiwla Lagrange. Fformiwla Newton a gwahaniaethau rhaniedig. Fformiwla gwahaniaethau ymlaen. Cyfeiliornad rhyngosodiad. Rhyngosodiad sblein giwbig.
2. INTEGRU RHIFIADOL: Rheol trapesoidaidd. Rheol Simpson. Rheolau integru cyfansawdd. Cyfeiliornad integru rhifiadol. Integru Romberg. Rheolau integru math Gauss.
3. DATRYSIAD I HAFALIADAU AFLINOL MEWN UN NEWIDYN: Dull dwyrannu. Dulliau pwynt sefydlog a mapiadau cyfangu. Dull Newton. Trefn cydgyfeiriant.
4. PROBLEMAU GWERTH CYCHWYNNOL: Bodolaeth ac unigrywedd datrysiadau. Dull Euler. Cyfeiliornad blaendoriad lleol. Cysondeb. Cydgyfeiriant. Sefydlogrwydd. Dulliau un-cam cyffredin. Dull trapesoidaidd. Dulliau rhagfynegi a chywiro
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Angenrheidol trwy gydol y modiwl. |
| Communication | Mae'n rhaid i atebion ysgrifenedig i ymarferion a dogfennaeth cod fod yn glir ac wedi'i strwythuro'n dda. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol i gynnydd llwyddiannus yn y cwrs. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain tuag at reoli amser er mwyn cwblhau gwaith mewn pryd, ac er mwyn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol rhwng darlithoedd a gweithdai. Dylent weithredu ar adborth, er enghraifft yr adborth yn y gweithdai ymarferol a roddir gan arddangoswyr ac adborth y darlithwyr wrth farcio gwaith. |
| Information Technology | Gosodir ymarferion i fyfyrwyr mewn gweithdai sy'n cynnwys datblygu cod cyfrifiadurol. Bydd angen iddynt allu defnyddio cyfrifiaduron a chyfleusterau'r llyfrgell drwy gydol y modiwl. |
| Personal Development and Career planning | Bydd cwblhau tasgau (taflenni gwaith a thaflenni problemau) erbyn y dyddiadau cau yn hybu datblygiad personol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu sydd â galw mawr amdanynt. |
| Problem solving | Bydd ymarferion yn cael eu gosod a'u marcio. Bydd y rhain yn cynnwys deillio a cymhwyso dulliau rhifiadol a gwerthuso'u cyfeilornad. |
| Research skills | Defnyddio cyfrifiadur. Chwilio trwy ddogfennaeth iaith a’r llyfrgell. |
| Subject Specific Skills | Sgiliau rhaglennu, sgiliau dadfygio, sgiliau rhifedd, sgiliau dadansoddi rhifiadol. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
