Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd
- Module Identifier
- MT39020
- Module Title
- Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Tudur Davies
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Tudur Davies
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad Ysgrifenedig: Adroddiad ysgrifenedig ac adnodd dysgu. 1500 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Traethawd Hir: Traethawd adlewyrchol ar wers fathemateg a roddwyd gan y myfyriwr. 2500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad Ysgrifenedig: Adroddiad ysgrifenedig ac adnodd dysgu. 1500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd Hir: Traethawd adlewyrchol ar wers fathemateg a roddwyd gan y myfyriwr. 2500 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Gwerthuso a thrafod pwysigrwydd Mathemateg mewn Addysg Uwchradd.
- Gwerthuso adnoddau dysgu y gellid eu defnyddio mewn dosbarth neu ar blatfform ar-lein.
- Dangos dealltwiraeth o gymhlethdod y broses ddysgu a chysylltu profiadau dysgu personol a syniadau cyfredol o sut mae disgyblion yn dysgu Mathemaeteg.
- Dadansoddi'n feirniadol rhai dulliau dysgu gan gynnwys y cysyniad o wahaniaeth fel strategaeth o ymateb i anghenion dysgu unigol.
- Dadansoddi'n feirniadol pwysigrwydd amcanion dysgu a'u perthynas a dysgu ac addysgu effeithiol
- Gwerthuso cydrannau allweddol a strwythuro cynllun gwers gan roi ystyriaeth o'r amcanion dysgu diffiniedig yn ogystal a rheolaeth o'r gweithgaredd dysgu
- Gwerthuso sut mae dulliau dysgu rhyngweithiol yn gwella dysgu Mathemateg, a bod yn ymwybodol o'r posibiliadau o gyfathrebiad dilafar yn y dosbarth.
- Disgrifo'r farn gyfredol am brif bwrpas asesu a rhai o'r egwyddorau sy'n hydreiddio ymarfer da, yn ogystal a thrafod a dadansoddi rhai cynlluniau a pholisiau marcio Mathemateg
Brief description
Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr o addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Bydd y myfyrwyr yn adlewyrchu ar ddulliau addysgu athrawon profiadol ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r sgiliau allweddol ar gyfer addysgu Mathemateg
Aims
Cyflwyno myfyrwyr i addysgu mathemateg ar lefel uwchradd trwy adlewyrchu ar elfen o brofiad gwaith.
Content
Bydd y modiwl yn cynnwys 10 diwrnod ar brofiad gwaith mewn lleoliad perthnasol lle gellir arsylwi ar y broses o addysgu a dysgu mathemateg. Disgwylir i fyfyrwyr sicrhau fod ganddynt wiriad DBS priodol cyn dechrau’r modiwl, ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu trafnidiaeth i’r lleoliad profiad gwaith ac yn ôl i'r Brifysgol. Noder felly y bydd costau ychwanegol ynglwm â'r modiwl: cost gwiriad DBS a chostau teithio.
Bydd y modiwl yn cynnwys trafodaeth ar y pynciau canlynol: Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Mathemateg, Damcaniaethau Dysgu, Amcanion Dysgu, Cynllunio Gwersi, Asesiad, Dulliau Addysgu Rhyngweithiol ac Adnoddau Defnyddiol, Gwerthuso ac Adlewyrchu.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Disgwylir i'r myfyrwyr gynorthwyo gyda tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal â gosod tasgau Mathemaetgol yn eu gwers. |
| Communication | Bydd y myfyrywr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o'u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portfolio yn crynhoi'r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal a chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a'r aseiniadau yn cynnwys trafodaethau llafar yn ogystal a chyfathrebu ysgrifenedig. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd myfyrwyr yn ymarfer eu sgiliau cyfathrebu ac yn cael y cyfle i ymdrin a Mathemateg yn Gymraeg yn y gweithle |
| Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a'r theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o'r chwiliadau eu trafod yn yr aseiniadau a'r portfollio |
| Personal Development and Career planning | Bydd y modiwl yn cyflwyno'r myfyrywr i rai o'r heriau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemaeteg mewn ysgol uwchradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. |
| Problem solving | Bydd myfyrwyr yn paratoi problemau a datrysiadau ar gyfer cyflwyno gwers yn yr ysgol |
| Research skills | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i'r syniadau a'r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio'r rhestr ddarllen a roddir |
| Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o bwnc mathemategol sylfaenol er mwyn addysgu’r pwnc hwnnw i ddysgwyr. |
| Team work | Bydd trafodaeth grwp yn chwarae rhan allweddol y seminarau'r modiwl. Bydd yn gyfle i'r myfyrwyr rannu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
