Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig. | 100% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig. | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fod wedi arddangos: 
 1.	y gallu i gasglu gwybodaeth yn annibynnol, gan ddefnyddio'r llyfrgell, rhwydwaith cyfrifiaduro ac adnoddau'r rhyngrwyd;
 
 
2. y gallu i ddechrau ymchwiliadau, llunio problemau addas ar gyfer yr ymchwiliadau a'u datrys;
3. y gallu i gyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith a wnaed wedi ei baratoi gan ddefnyddio prosesydd geiriau.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyriwr MMath blwyddyn olaf i ddilyn ymchwiliadau mathemategol neu ystadegol gan weithio mor annibynnol a phosibl o gyfarwyddyd uniongyrchol, ac i baratoi adroddiad cydlynol o'r ymchwiliadau. Dewisir y testun neilltuol mewn ymgynghoriad a goruchwylydd, a bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r goruchwylydd am ddwy awr yr wythnos ar y mwyaf. Prif bwrpas y tiwtorialau yma yw i sicrhau nad yw datblygiad y prosiect yn cael ei amharu gan anawsterau neu gamddealltwriaeth ac i wneud awgrymiadau fel bo'n briodol.
Nod
Cynnig profiad i'r myfyriwr o astudio pwnc mewn Mathemateg neu Ystadegaeth yn annibynnol.
Cynnwys
Bydd y testun a'r deunyddiau adnoddau yn cael ei drefnu mewn ymgynghoriad a'r goruchwylydd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
