Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)
- Module Identifier
- NY10460
- Module Title
- Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester S Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Angharad Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Co-Requisite
-
NU10120 or NU10220 or NU10320
Modules to be completed in conjunction with NY10460 - Other Staff
- Miss Samantha Adams
- Mrs Simone Anthony
- Mrs Elizabeth Wile
- Dr Angharad Jones
- Mrs Amanda Jones
- Mrs Ellie Jolley-Dawson
- Mrs Jayne Evans
- Mr Darren Prince
- Mrs Natalie Reardon
- Mr Rejimon Abdul Khadir Subaida Beevi
- Mr Asa Galeozzie
- Miss Carys-Ann Hornsey
- Dr Ifat Shah
- Mrs Kayrene James
- Mr Simon Clothier
- Mr Matthew Townsend
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Continuous clinical assessment and In-point Assessment (1st): 800 Hours Asesiad clinigol parhaus (sy’n adlewyrchu’r maes ymarfer a ddewisir gan y myfyriwr) | 100% |
| Supplementary Assessment | Practical exam: 1 Hours Students must pass each element detailed in the Practice Assessment Document for Part 1 to progress to Part 2 | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Disgrifio’r priodoleddau sy’n gysylltiedig â bod yn weithiwr proffesiynol atebol
- Defnyddio strategaethau i ddarparu dulliau penodol o hybu iechyd
- Nodi anghenion sylfaenol defnyddwyr gwasanaethau a chynllunio gofal nyrsio cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Darparu gofal nyrsio diogel, tosturiol ac effeithiol gan gloriannu effeithiolrwydd yn erbyn canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau unigol
- Gweithredu'r gwaith o ddarparu gofal nyrsio, gan weithio'n effeithiol gyda thimau i gydlynu gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau unigol
- Disgrifio’r strategaethau cyfredol a ddefnyddir i fonitro diogelwch ac ansawdd gofal
- Disgrifio ac adnabod y budd o addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechyd
Brief description
23. DISGRIFIAD CRYNO:
Mae Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a), Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y Deyrnas Unedig yn nodi bod angen i nyrsys cofrestredig fod â’r hyder a’r gallu i feddwl yn feirniadol, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau, a darparu gofal nyrsio uniongyrchol arbenigol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ym mhob lleoliad gofal iechyd.
Rhaid i nyrsys cofrestredig allu diwallu anghenion gofal holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, pobl maent yn dod ar eu traws wrth ymarfer, a all fod ar unrhyw gam mewn bywyd ac a all fod ag amrywiaeth o heriau iechyd meddyliol, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol.
Hefyd, rhaid i nyrsys cofrestredig “allu dangos mwy o wybodaeth a’r sgiliau ychwanegol, mwy datblygedig sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion gofal penodol yn eu dewis feysydd ymarfer nyrsio.” (NMC 2018a, t.6).
Mae Strategaeth Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer rhaglenni Nyrsio cyn-cofrestru, sy’n arwain at fynediad i’r gofrestr broffesiynol, yn nodi’r broses ar gyfer mesur perfformiad myfyrwyr yn erbyn Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a).
Mae’r safonau hyfedredd yn y ddogfen hon yn nodi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae’n rhaid i nyrsys cofrestredig eu dangos wrth ofalu am bobl o bob oed ac ym mhob lleoliad gofal. Maent yn adlewyrchu’r hyn y gall y cyhoedd ddisgwyl i nyrsys ei wybod a gallu ei wneud er mwyn darparu gofal nyrsio diogel, trugarog ac effeithiol.
Content
Mae cynnwys y modiwl yn adlewyrchu safonau rheoliadol yr NMC, sy'n nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar nyrsys cofrestredig medrus, ac felly mae'r modiwl yn ymdrin â'r elfennau a nodir yn Rhannau 1, 2 a 3 o Safonau Gwireddu Proffesiynoldeb yr NMC yn ogystal â'r Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig.
Mapio deilliannau hyfedredd nyrsys y dyfodol a sgiliau a gweithdrefnau atodol. Mae Safonau hyfedredd ar gyfer nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) yn nodi deilliannau hyfedredd, sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau a’r gweithdrefnau nyrsio y mae’n rhaid i nyrs sy’n astudio eu dangos er mwyn cael ymuno â chofrestr broffesiynol yr NMC fel Nyrs Gofrestredig Raddedig.
Mae’r deilliannau hyfedredd sydd yn y Ddogfen Asesu Ymarfer hon yn nodi’r wybodaeth, sgiliau, ymagweddau ac ymddygiadau y mae’n rhaid i’r myfyriwr allu eu dangos erbyn diwedd y rhaglen. Maent wedi’u trefnu gyda chyfeiriad at blatfformau ac atodiadau hyfedredd yr NMC (NMC 2018):
1. Bod yn weithiwr proffesiynol atebol
2. Hybu iechyd ac atal salwch
3. Asesu anghenion a chynllunio gofal
4. Darparu a gwerthuso gofal
5. Arwain a rheoli gofal nyrsio a gweithio mewn timau
6. Gwella diogelwch ac ansawdd gofal
7. Cydlynu gofal
Atodiad A: Sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau
Atodiad B: Gweithdrefnau nyrsio
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos yr wybodaeth y maent wedi’i dysgu, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Gyda chymorth mentora a phrofiad uniongyrchol, disgwylir i fyfyrwyr adeiladu ar eu gwybodaeth a deall ymhellach yr angen i fod yn hyblyg, yn greadigol ac yn ddyfeisgar yn eu harfer bob dydd.Yn ogystal, gall y maes clinigol fod yn heriol ac mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn profi sefyllfaoedd gofal iechyd anodd a allai eu llethu’n emosiynol. Ar y modiw |
| Co-ordinating with others | Bydd y modiwl yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy ei chymhwyso’n ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am y swyddogaethau proffesiynol a'r gymysgedd o sgiliau sydd eu hangen mewn timau clinigol i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach y sgiliau ymarferol a chydgysylltiol sydd eu hangen i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. |
| Creative Problem Solving | Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael profiad o ymarfer clinigol, a bydd gofyn iddynt gyfrannu at y gwaith o ddarparu gofal ymarferol i gleifion, dan oruchwyliaeth uniongyrchol cydweithwyr clinigol. Bydd angen i fyfyrwyr ddangos yr wybodaeth y maent wedi’i dysgu, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Gyda chymorth mentora a phrofiad ymarferol, disgwylir i fyfyrwyr adeiladu ar eu gwybodaeth a deall ymhellach yr angen i fod |
| Critical and analytical thinking | Drwy gael profiad ‘amser real’ o ofal clinigol, bydd myfyrwyr yn llwyr werthfawrogi'r angen i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol. Bydd y modiwl lleoliad ymarferol hwn yn helpu myfyrwyr i ddysgu trwy arsylwi sut y gwneir penderfyniadau clinigol ar sail symptomau, sut y gellir cysylltu symptomau â data clinigol eraill a sut y gall archwiliadau ac arsylwadau helpu wrth benderfynu ar opsiynau triniaeth a darpariaeth gofal, gan ddangos felly bod angen gwybodaeth ddadansoddol eang, a su |
| Digital capability | Ar y modiwl hwn bydd angen i’r myfyrwyr barhau i ddefnyddio/dysgu sut i:• ddefnyddio Blackboard• lan-lwytho cofnodion i'w Dogfen Asesu Proffesiynol • cyflwyno gwaith yn electronig• defnyddio llwyfannau electronig a ddefnyddir yn yr amgylchedd clinigol |
| Professional communication | Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y myfyriwr o gyfathrebu proffesiynol trwy’r profiad o gymryd rhan yn eu lleoliad ymarfer. Cynorthwyir myfyrwyr ymhellach i ddatblygu eu medrau cyfathrebu proffesiynol trwy roi a derbyn gwybodaeth wrth drosglwyddo gwybodaeth i’r sifft nesaf, ysgrifennu yng nghofnodion a siartiau clinigol cleifion, cyflwyno gwybodaeth wrth fynd o amgylch wardiau, cyfathrebu â chleifion, teuluoedd ac aelodau tîm amlddisgyblaethol. |
| Real world sense | Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy ei chymhwyso’n ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd myfyrwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau clinigol a chymhwyso eu gwybodaeth i sefyllfaoedd clinigol dan oruchwyliaeth eu goruchwyliwr ymarfer. Bydd y lleoliad ymarfer hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i gymhlethdodau ymarfer clinigol, a fydd yn rhoi sylfaen iddynt ddatblygu ymhellach yn ystod 2il flwyddyn y rhaglen. |
| Reflection | Yn ystod y modiwl ymarferol hwn, bydd myfyrwyr yn cael profiad o 'fyfyrio wrth weithio', a fydd yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau ymarferol trwy brofi a chymryd rhan mewn gwaith clinigol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau myfyrio drwy gwblhau gwaith myfyrgar yn seiliedig ar addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechyd. |
| Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach yn y meysydd canlynol:• ymarfer nyrsio proffesiynol mewn perthynas â darparu gofal yn ymarferol - sgiliau clinigol- sgiliau hanfodol/sylfaenol (bwydo/golchi/helpu cleifion i fynd i’r toiled)- asesu- cynllunio gofal- cloriannu gofal- archwiliadau a darparu triniaet- care planning- care evaluation- investigations and treatment delivery- communication• the delivery of person-centred holistic care• safe practice |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
