Module Information

Cod y Modiwl
NY33500
Teitl y Modiwl
Arwain Ymarfer Proffesiynol (Rhan A)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Co-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 800 Awr   Continuous clinical assessment  Gweler NY30560 am fanylion asesiadau ail-sefyll.  100%
Asesiad Semester 800 Awr   Continuous clinical assessment  Nid oes asesiad ffurfiol yn semester 1. Gweler NY30560 am fanylion asesiadau semester 2 a semester S  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

adlewyrchu’r priodoleddau sy’n gysylltiedig â bod yn weithiwr proffesiynol atebol

cymryd rhan mewn strategaethau penodol i hybu iechyd

asesu anghenion sylfaenol defnyddwyr gwasanaethau a chynllunio gofal nyrsio cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

darparu gofal nyrsio diogel, tosturiol ac effeithiol gan gloriannu effeithiolrwydd yn erbyn canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau unigol

arwain a rheoli eu gofal nyrsio eu hunain, gan weithio'n effeithiol gyda thimau i gydlynu gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau unigol

disgrifio’r strategaethau cyfredol a ddefnyddir i fonitro diogelwch ac ansawdd gofal

Gwerthuso’r budd o addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechyd

Disgrifiad cryno

Mae Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a), Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y Deyrnas Unedig yn nodi bod angen i nyrsys cofrestredig fod â’r hyder a’r gallu i feddwl yn feirniadol, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau, a darparu gofal nyrsio uniongyrchol arbenigol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ym mhob lleoliad gofal iechyd.
Rhaid i nyrsys cofrestredig allu diwallu anghenion gofal holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, pobl maent yn dod ar eu traws wrth ymarfer, a all fod ar unrhyw gam mewn bywyd ac a all fod ag amrywiaeth o heriau iechyd meddyliol, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol.

Hefyd, rhaid i nyrsys cofrestredig “allu dangos mwy o wybodaeth a’r sgiliau ychwanegol, mwy datblygedig sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion gofal penodol yn eu dewis feysydd ymarfer nyrsio.” (NMC 2018a, t.6).

Mae Strategaeth Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer rhaglenni Nyrsio cyn-cofrestru, sy’n arwain at fynediad i’r gofrestr broffesiynol, yn nodi’r broses ar gyfer mesur perfformiad myfyrwyr yn erbyn Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a).
Mae’r safonau hyfedredd yn y ddogfen hon yn nodi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae’n rhaid i nyrsys cofrestredig eu dangos wrth ofalu am bobl o bob oed ac ym mhob lleoliad gofal. Maent yn adlewyrchu’r hyn y gall y cyhoedd ddisgwyl i nyrsys ei wybod a gallu ei wneud er mwyn darparu gofal nyrsio diogel, trugarog ac effeithiol.

Cynnwys

Mae cynnwys y modiwl yn adlewyrchu safonau rheoliadol yr NMC, sy'n nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar nyrsys cofrestredig medrus, ac felly mae'r modiwl yn ymdrin â'r elfennau a nodir yn Rhannau 1, 2 a 3 o Safonau Gwireddu Proffesiynoldeb yr NMC yn ogystal â'r Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig.

Mapio deilliannau hyfedredd nyrsys y dyfodol a sgiliau a gweithdrefnau atodol. Mae Safonau hyfedredd ar gyfer nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) yn nodi deilliannau hyfedredd, sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau a’r gweithdrefnau nyrsio y mae’n rhaid i nyrs sy’n astudio eu dangos er mwyn cael ymuno â chofrestr broffesiynol yr NMC fel Nyrs Gofrestredig Raddedig.

Mae’r deilliannau hyfedredd sydd yn y Ddogfen Asesu Ymarfer hon yn nodi’r wybodaeth, sgiliau, ymagweddau ac ymddygiadau y mae’n rhaid i’r myfyriwr allu eu dangos erbyn diwedd y rhaglen. Maent wedi’u trefnu gyda chyfeiriad at blatfformau ac atodiadau hyfedredd yr NMC (NMC 2018):

1. Bod yn weithiwr proffesiynol atebol
2. Hybu iechyd ac atal salwch
3. Asesu anghenion a chynllunio gofal
4. Darparu a gwerthuso gofal
5. Arwain a rheoli gofal nyrsio a gweithio mewn timau
6. Gwella diogelwch ac ansawdd gofal
7. Cydlynu gofal

Atodiad A: Sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau
Atodiad B: Gweithdrefnau nyrsio

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Hyblygrwydd a chydnerthedd: Bydd y modiwl lleoliad ymarfer yn gofyn i fyfyrwyr ddangos eu sgiliau hyblygrwydd, drwy ofalu am amrywiaeth eang o gleifion sydd angen gwahanol lefelau o ofal, mewn ystod o leoliadau gofal. Trwy chwarae rhan flaenllaw wrth ddarparu gofal, bydd angen i fyfyrwyr ddangos eu bod yn gallu bod yn hyblyg, yn greadigol ac yn ddyfeisgar yn eu harfer bob dydd. Yn ogystal, gall y maes clinigol fod yn heriol, ac mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn profi sefyllfaoedd gofa
Cydlynu ag erail Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy roi cyfle i’r myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylcheddau amser real. Bydd y myfyrwyr yn gweithio fel aelodau gweithredol o’r tîm amlddisgyblaethol ac yn arwain a darparu gweithgareddau gofal, gan gynnwys holl aelodau'r tîm; bydd hyn yn gofyn am sgiliau cydgysylltu, trefnu a thrafod. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr drosglwyddo gwybodaeth i’r sifft nesaf/trosglwyddo gwybodaeth glinigol, ymgynghori â
Cyfathrebu proffesiynol Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd mewn modiwlau/blynyddoedd blaenorol, trwy roi cyfle i’r myfyrwyr gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol yn ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd y myfyrwyr yn gweithio fel aelodau gweithredol o'r tîm amlddisgyblaethol ac yn arwain a darparu gweithgareddau gofal, gan gynnwys holl aelodau'r tîm; bydd hyn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu, cydgysylltu, trefnu a thrafod rhagorol. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr drosglwyddo g
Datrys Problemau Creadigol Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr unwaith eto yn cael profiad o ymarfer clinigol, a bydd gofyn iddynt gyfrannu at y gwaith o ddarparu gofal ymarferol i gleifion, dan oruchwyliaeth uniongyrchol cydweithwyr clinigol. Bydd angen i fyfyrwyr ddangos y wybodaeth a ddysgwyd yn y blynyddoedd blaenorol gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Fel myfyriwr hŷn yn y drydedd flwyddyn, disgwylir iddynt fod wedi’u trochi’n llwyr ym mhob agwedd ar ymarfer clinigol, a
Gallu digidol Ar y modiwl hwn bydd angen i’r myfyrwyr barhau i ddefnyddio/dysgu sut i: • ddefnyddio blackboard • lanlwytho cofnodion i'w Dogfen Asesu Proffesiynol • cyflwyno gwaith yn electronig • defnyddio llwyfannau electronig a ddefnyddir yn yr amgylchedd clinigol
Meddwl beirniadol a dadansoddol Drwy gael profiad ‘amser real’ o ofal clinigol, bydd myfyrwyr yn datblygu ymhellach eu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol. Trwy chwarae rhan arweiniol ym mhob agwedd ar ddarparu gofal, bydd y myfyrwyr yn defnyddio eu sgiliau ac yn gwneud penderfyniadau (dan oruchwyliaeth) ynglŷn â’r math o ofal sydd ei angen ar gyfer grŵp o gleifion (oedolion) o bob oedran. Trwy chwarae rhan weithredol wrth ddarparu gofal, bydd myfyrwyr yn llwyr ddeall y lefel o allu i feddwl yn feirniadol sydd ei angen mew
Myfyrdod Yn ystod y modiwl ymarferol hwn, bydd myfyrwyr yn cael profiad o 'fyfyrio wrth weithio', a fydd yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau ymarferol drwy brofi a chymryd rhan mewn gwaith clinigol. Trwy ystyried eu profiadau yn y gorffennol, bydd sgiliau’r myfyrwyr yn datblygu, a byddant yn dechrau gwerthfawrogi’r rhan y mae myfyrio yn ei chwarae yn eu taith ddysgu. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau 'myfyrio am waith' ymhellach drwy gwblhau traethawd myfyrgar yn ymwneud â'u cyfn
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach yn y meysydd canlynol: • darparu gofal nyrsio tosturiol • ymarfer nyrsio proffesiynol mewn perthynas â darparu gofal yn ymarferol - sgiliau clinigol - sgiliau hanfodol/sylfaenol (bwydo/golchi/helpu cleifion i fynd i’r toiled) - asesu - cynllunio gofal - cloriannu gofal - archwiliadau a darparu triniaethau - cyfathrebu • darparu gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn • ymarfer diogel • atebolrwydd • hyrwyddo ie
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau/blynyddoedd blaenorol, trwy roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol yn ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd myfyrwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau clinigol a chymhwyso eu gwybodaeth i sefyllfaoedd clinigol dan oruchwyliaeth eu goruchwyliwr ymarfer a’r aseswr ymarfer. Yn ystod y modiwl hwn, disgwylir i’r myfyrwyr ddatblygu eu gallu clinigol, er mwyn cyflawni statws Nyrs Gofrestredig a bod yn ymarferydd ann

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6