Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu a Gwyddor da Byw
- Module Identifier
- RG17020
- Module Title
- Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu a Gwyddor da Byw
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Manod Williams
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Portffolio: Bydd myfyrwyr yn cwblhau 3 gweithgaredd senario wedi'u halinio â sesiynau ymarferol ar draws S1 ac S2. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fel portffolio unigol o weithgareddau yn S2. 1500 o eiriau | 60% |
| Semester Exam | MCQ: 1.5 Hours 1.5 Awr | 40% |
| Supplementary Assessment | Portffolio: Bydd myfyrwyr yn cwblhau 3 gweithgaredd senario wedi'u halinio â sesiynau ymarferol ar draws S1 ac S2. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fel portffolio unigol o weithgareddau yn S2. 1500 o eiriau | 60% |
| Supplementary Exam | MCQ: 1.5 Hours 1.5 Awr | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cof a o anatomi a ffisioleg y da byw o'u fewn.
- Nodi'r cyfyngiadau biolegol ar gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cof o egwyddorion rheoli cynaliadwy.
- Dangos sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau cynhyrchu da byw.
- Dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli data fferm da byw.
Brief description
Trwy gyfres o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol ar ffermydd ac o fewn labordai mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.
Aims
Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw fferm yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU.
Deall sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.
Nodi cyfyngiadau ar gynhyrchu, yn enwedig cyfyngiadau biolegol, a disgrifio arferion rheoli cynaliadwy i'w goresgyn.
Dadansoddi a dehongli data fferm da byw i werthuso perfformiad y system.
Content
Bydd amser cyswllt y modiwl yn cynnwys tua hanner darlithoedd a hanner gweithgareddau maes neu labordy.
Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw a gwyddoniaeth gan gynnwys systemau defaid, gwartheg eidion, gwartheg godro a dofednod; systemau cynhyrchu wyau a chig dofednod; bioleg da byw gyffredinol; iechyd da byw gan ganolbwyntio ar imiwnedd, parasitoleg, bacteria, protosoa a firysau; systemau biolegol gan gynnwys systemau atgenhedlu, endocrin a threulio; twf a datblygiad a llaetha a rheoli clefydau yn gynaliadwy.
Bydd sesiynau ymarferol yn cynnwys dyraniadau da byw cnoi cil; deall y gylchred cynhyrchu defaid a gweithgareddau rheoli allweddol; systemau magu lloi a magu anifeiliaid am gig eidion; systemau cynhyrchu llaeth gan gynnwys y cylch gynhyrchu, maeth y fuwch a rheoli mastitis; rheoli defaid au hŵyn; cyfrif wyau ysgarthol ar gyfer rheoli parasitiaid mewnol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Critical and analytical thinking | Bydd yr aseiniadau yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau y tu hwnt i ddyfnder a chwmpas deunydd y ddarlith. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu hasesu yn yr aseiniadau. Rhoddir adborth yn yr aseiniad. |
| Digital capability | Mae angen dadansoddi, dehongli a chyflwyno data gan ddefnyddio Excel yn yr aseiniadau. Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn yr aseiniad a bydd adborth yn cael ei ddarparu. |
| Professional communication | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr aseiniadau, lle bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau. |
| Subject Specific Skills | Bydd cysyniadau pwnc-benodol sy'n ymwneud â chynhyrchu da byw a bioleg yn cael eu datblygu a'u hasesu yn yr aseiniadau a'r arholiad. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
