Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol
- Module Identifier
- RG18000
- Module Title
- Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Cennydd Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Irene Griffiths
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Cennydd Jones
- Dr Ifat Shah
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad Cnydau: 1500 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Adnabod Cnydau Porthiant: 2 Hours O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr | 20% |
| Semester Assessment | Adroddiad priddoedd: 1500 o eiriau | 20% |
| Semester Exam | Arholiad aml-ddewis: 1.5 Hours 1.5 Awr | 40% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad priddoedd: 1500 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Adnabod Cnydau Porthiant: 2 Hours O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr | 20% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad Cnydau: 1500 o eiriau | 20% |
| Supplementary Exam | Arholiad aml-ddewis: 1.5 Hours 1.5 Awr | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
- Arddangos gwybodaeth a gedwir yn feddyliol wrth adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant.
- Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
- Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
- Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
- Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
- Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.
Brief description
Trwy raglen integredig o ddarlithoedd, sesiynau arddangos, sesiynau ymarferol ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn cael gwybod am union ofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawn, yn ogystal â'r ffactorau sy'n sail i ystod o strategaethau cynhyrchu cnwd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, gan roi pwyslais ar sut mae'r rhain yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bridd. Ar ôl i'r pethau elfennol hyn gael eu cyflwyno, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar eu goblygiadau o ran rheoli tir a gwarchod yr amgylchedd.
Aims
1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
2. Arddangos gwybodaeth a gedwir yn feddyliol wrth adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant.
3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.
Content
Rhennir y modiwl hwn yn sawl adran i gwmpasu gwahanol agweddau ar reoli tir amaethyddol.
Cyflwynir gwyddor pridd, gan ganolbwyntio ar adeiladwaith, gweadedd a lleithder pridd. Mae'n archwilio cylchdroi a rheoli maetholion ar gyfer iechyd pridd.
Trafodir pwysigrwydd glaswelltiroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhywogaethau porfa a mathau o lystyfiant. Bydd y gweithdai ar gymysgeddau hadau a rhaglenni maetholion yn gysylltiedig â’r adrannau am gydrannau pridd.
Bydd treialon maes yn sail i'r adran ar gnydau. Nod y darlithoedd, y gweithdai a'r dosbarthiadau ymarferol yw dilyn cylch bywyd y cnwd ac arwain penderfyniadau ar reoli cnydau. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: cynnyrch, dewis mathau, gwarchod cnydau a chynllunio maetholion.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth reoli eu plotiau cnydau. |
| Creative Problem Solving | Bydd holl aseiniadau'r modiwl hwn yn cynnwys adnabod problemau wedi eu cysylltu â thyfiant planhigion neu rheolaeth priddoedd yn y maes. Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr greu strategaeth rheolaeth i ymateb i hyn. |
| Critical and analytical thinking | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyfradd hau, poblogaeth planhigion a chynnyrch y planhigyn. |
| Digital capability | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu. |
| Professional communication | Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol. |
| Real world sense | Mae'r sgil o adnabod cnydau porthiant yn hynod o drosglwyddiadwy ar gyfer graddedigion mewn amaethyddiaeth, cadwraeth ac ymgynhori. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
