Agronomeg a Gwelliant Cnydau
- Module Identifier
- RG27620
- Module Title
- Agronomeg a Gwelliant Cnydau
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Cennydd Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cyflwyniad Cynllun Gwarchod Cnydau: 15 Munud | 50% |
| Semester Assessment | Cynllun Rheoli Glaswelltir: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Cynllun Gwarchod Cnydau: 15 Munud | 50% |
| Supplementary Assessment | Cynllun Rheoli Glaswelltir: 2000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
- Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
- Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
- Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
- Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau a glaswelltir o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.
Brief description
Mae'r modiwl yn disgrifio agronomeg sylfaenol ystod o gnydau torri âr a’r rhai y gellir eu cynaeafu â chombein, gan gynnwys tatws, betys siwgr, rêp had olew a ffa maes. Ymhlith y nodweddion agronomegol mae cylchdroi, math o bridd, hau a sefydlu planhigion, maeth, gwarchod cnydau, cynaeafu a storio cnydau ar ôl eu cynaeafu. Bydd systemau gwrthgyferbyniol o gynhyrchu cnydau a glaswelltir yn cael eu trafod, a bydd effeithlonrwydd y systemau hyn yn cael eu cloriannu. Bydd cyfyngiadau biotig ar gynhyrchu yn canolbwyntio ar effaith clefydau, chwyn a phlâu ar gnydau âr, gan gynnwys mecanwaith a maint colledion cynnyrch, ymwrthedd cnydau, rheoli cemegol a biolegol, rheoli cnydau integredig. Yn olaf, bydd amcanion a chyflawniadau gwaith bridio cnydau âr, glaswellt a chodlysiau yn cael eu hadolygu.
Bydd y darlithoedd hyn yn cynnwys trafodaeth am yr amrywiaeth o weithdrefnau datblygu, cofrestru, lluosi ac ardystio, ac effaith debygol datblygiadau mewn biotechnoleg ar gynhyrchu a rheoli cnydau yn y dyfodol.
Aims
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyrwyr allu:
1. Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
2. Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
3. Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
4. Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
5. Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau a glaswelltir o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.
Content
Systemau sy’n ymdrin â chnydau âr, glaswellt a phorthiant
Cylchdroi cnydau a chynllunio cylchdroi
Rheoli cnydau mewn modd integredig
Ar gyfer glaswelltir a phorthiant:
Systemau rheoli, cynhyrchu a gwarchod yr amgylchedd
Rheoli pori
Cadwraeth porthiant
Cnydau porthiant
Ar gyfer planhigion cnydau gan gynnwys rêp had olew, tatws, betys siwgr a ffa maes:
Gofynion y farchnad
Nodweddion amrywiaethau o borfeydd a sut y cânt eu defnyddio
Cylchdroi, paratoi pridd a sefydlu hadau
Maeth
Gwarchod planhigion: chwyn, afiechydon a rheoli plâu
Cynaeafu a thrin a storio ar ôl y cynhaeaf
Gwarchod cnydau
Sut mae clefydau’n datblygu ac epidemioleg
Strategaethau rheoli clefydau
Plâu a difrod gan blâu
Strategaethau rheoli plâu
Bioleg a chystadleuaeth chwyn
Rheoli chwyn
Gwarchod cnydau integredig
Bridio planhigion
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Critical and analytical thinking | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, dwyster stocio, cyflenwad silwair a rholaeth maetholion. |
| Digital capability | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu. |
| Professional communication | Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol. |
| Real world sense | Mae'r ddau aseiniad yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr wneud gwaith sydd yn debyg i sefyllfa go iawn. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
