Cynhyrchu a Rheoli Da Byw

Module Identifier
RG28000
Module Title
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Manod Williams
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
BG17020 or BR17020 or RD17020 or RG17020 or RD17020
Exclusive (Any Acad Year)
BR28020 or RD28020 or RD28020
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Mrs Nia Lloyd
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu: Taflen wybodaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau 60%
Semester Exam Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr: 2 Hours 2 Awr 40%
Supplementary Assessment Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu: Taflen wybodaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau 60%
Supplementary Exam Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr: 2 Hours 2 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gwerthuso cyfyngiadau biolegol a ffisegol ar gynhyrchiant da byw er mwyn cynhyrchu da byw yn gynaliadwy
  2. Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw
  3. Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw i adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd
  4. Cymhwyso gwybodaeth ymchwil er mwyn gwella systemau cynhyrchu da byw
  5. Arddangos gwybodaeth mewn cof am egwyddorion biolegol a rheolaethol sylfaenol cynhyrchu da byw

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.

Content

Cynhyrchu a rheoli o fewn y systemau canlynol
Cig Eidion
Defaid
Llaeth
Moch

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau.
Communication Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad.
Improving own Learning and Performance Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu.
Information Technology Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau.
Personal Development and Career planning Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol.
Problem solving Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad.
Research skills Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad.
Subject Specific Skills Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw

Notes

This module is at CQFW Level 5