Dulliau Ymchwil Meintiol
- Module Identifier
- SC21310
- Module Title
- Dulliau Ymchwil Meintiol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Judith Roberts
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
PS11320 or SC11320
Students must have taken either PS11320 or SC11320 - Other Staff
- Dr Hanna Binks
- Dr Saffron Passam
- Miss Alexandra Brookes
- Dr Victoria Wright
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad Ymchwil: 2000 o eiriau | 70% |
| Semester Assessment | Cwis: 0.5 Hours Cwis MCQ .5 Awr | 30% |
| Supplementary Assessment | Cwis: 0.5 Hours Cwis MCQ .5 Awr | 30% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad Ymchwil: 2000 o eiriau | 70% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Casglu data meintiol gan ddefnyddio offer, dulliau neu dechnegau priodol
- Dewis a chymhwyso dadansoddiadau ystadegol priodol at setiau data
- Dewis a chymhwyso gwybodaeth am gynlluniau ymchwil priodol er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil
- Dod i gasgliadau yng ngoleuni canlyniadau dadansoddiadau ystadegol
- Rhannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol
- Dangos eich bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol
Brief description
Gan ychwanegu at y sgiliau a'r ddealltwriaeth a ddatblygwyd yn eich blwyddyn astudio gyntaf, bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddysgu rhagor o sgiliau ymarferol er mwyn datblygu cynlluniau ymchwil meintiol a dewis a chymhwyso ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau ystadegol i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil o ddiddordeb seicolegol.
Content
Egwyddorion, athroniaeth a moeseg mewn gwaith ymchwil meintiol
Ymchwilio i ddata: Mesuriad, mathau ar newidion, graddfeydd, gwall mesur ac ystadegol, dosbarthu, tybiaethau ystadegol, dibynadwyedd a dilysrwydd
Ymchwilio i berthnasau a rhagweld newidion: Cydberthynas, atchweliad llinol syml, atchweliad lluosog
Ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng grwpiau/amodau: Cynlluniau rhyng-gyfranwyr, o fewn cyfranwyr a chynlluniau cymysg a ffactorol
Ymchwilio i ddata categorïaidd
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cydweithio i gynllunio a chynnal astudiaeth o ffenomena seicolegol ar raddfa fechan. |
| Creative Problem Solving | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddatrys problemau ymarferol sy'n ymwneud â chynllunio a dadansoddi ymchwil. Rhoddir pwyslais ar weithredoli cynlluniau ymchwil a dewis ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau. |
| Digital capability | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor o sgiliau i ddefnyddio meddalwedd arbenigol i adolygu, i fodelu ac i ddadansoddi data rhifol. |
| Professional communication | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau i rannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol. |
| Reflection | Mae sesiynau ymarferol yn gyfle i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn gallu cymhwyso'r wybodaeth sydd ganddynt am brofion ystadegol at ddata seicolegol. Bydd myfyrwyr yn gallu monitro’u perfformiad eu hunain drwy ddefnyddio'r adnoddau hunan-wirio i arwain eu datblygiad. |
| Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor ar eu sgiliau ymchwil drwy ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol a'u bod yn gallu dewis y casgliad cywir o ddata ymchwil ynghyd â'r offer dadansoddi cywir. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Psychology,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Penglais, Aberystwyth,
01970 628444 : +44 : +44 (0)1970 622021
psychology@aber.ac.uk: psychology@aber.ac.uk
