Cydweithio Ensemble

Module Identifier
TC10820
Module Title
Cydweithio Ensemble
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Gareth Evans
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Gareth Evans
Elin Morse

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cynhyrchiad Ymarferol: 0.5 Hours Ensemble 70%
Semester Assessment Portffolio o Ddeunydd Cyd-destunol: (Ysgrifenedig neu fideo) 1000 Words 30%
Supplementary Assessment Cynhyrchiad Ymarferol: Unigol 70%
Supplementary Assessment Portffolio o Ddeunydd Cyd-destunol: (Ysgrifenedig neu fideo) 1000 Words 30%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos gallu i ddeall a chymhwyso gwahanol elfennau cynhyrchiad ensemble.
  2. Arddangos gallu i gydnabod a dadansoddi cyfraniad unigol o fewn gwaith ensemble.
  3. Arddangos gallu i gloriannu, dadansoddi, a gwerthuso proses greadigol estynedig.

Brief description

Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr i gydweithio fel grŵp ensemble cyfansawdd, gan fanteisio ar y sgiliau ymarferol o ran perfformio, llwyfannu, ffilmio, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu y byddant wedi’u datblygu yn ystod Semester 1.

Er mwyn gwneud hyn, gofynnir i’r myfyrwyr ddyfeisio a chreu cynhyrchiad ymarferol o’u dewis a’u dyfais eu hunain, gan fynd trwy’r holl gamau angenrheidiol o greu neu gyfaddasu sgript neu senario, trefnu’r rolau a’r swyddi cyflwyno a chynhyrchu, creu amserlen ar gyfer llunio a chwblhau’r gwaith a’i gyflwyno gerbron cynulleidfa fyw (os yn briodol a phosibl).

Fe fydd y modiwl hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr i adlewyrchu ar y broses o gydweithio creadigol trwy lunio portffolio o ddeunyddiau creadigol a chyd-destunol naill ai trwy ddulliau ysgrifenedig neu ar fideo.

Content

Fe fydd y cynnwys, y ffurf mynegiant, a’r berthynas rhwng y deunydd a gaiff ei gyflwyno’n fyw a'r hyn a gaiff ei recordio o flaen llaw yn wahanol o flwyddyn i flwyddyn. O ganlyniad, fe fydd y sesiynau yn cael eu haddasu i gwrdd ag anghenion a nodweddion y prosiect ymarferol wrth iddo ddatblygu. Fe grëir amserlen ddysgu amodol ar gyfer y prosiect cyn gynted ag y medrir a’i addasu ar y cyd gyda’r myfyrwyr wrth fynd ymlaen.

Yn gyffredinol, fe fydd y meysydd a gyflwynir yn y dosbarthiadau ymarferol yn cynnwys y canlynol :
1. Dyfeisio
2. Cydweithio Ensemble
3. Rolau arbenigol o fewn yr Ensemble
4. Datblygu llinell stori
5. Trefnu’r gwaith sgriptio
6. Ymchwil a ffynonellau cyd-destunol
7. Creu adeiladwaith a chynllun ymarfer
8. Cyfarwyddo
9. Ôl-gynhyrchu
10. Marchnata a chyhoeddusrwydd

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Deall cysyniad dynameg grŵp; Cyfrannu at sefydlu nodau’r grŵp; Cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp; Chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; Ymarfer sgiliau trafod a pherswadio; Gwerthuso gweithgareddau grŵp a’ch cyfraniad eich hun.
Creative Problem Solving Dynodi problemau; Dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl; Datblygu dulliau meddwl creadigol wrth ddatrys problemau; Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posibl; Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem.
Critical and analytical thinking Deall amrywiol ddulliau ymchwil; Cynllunio a chynnal ymchwil; Llunio adroddiadau sy’n briodol yn academaidd; Gwerthuso dulliau, cynllunio a gweithdrefnau ymchwil.
Professional communication Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol; Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol; Siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol (gan gynnwys cyflwyno a thrafod); Gwrando’n effeithiol.
Reflection Dangos ymwybyddiaeth o’ch arddulliau dysgu eich hun, eich hoffterau ac anghenion personol a rhwystrau i ddysgu; Dyfeisio a chymhwyso strategaethau dysgu a hunan-reoli realistig; Dyfeisio cynllun gweithredu personol i gynnwys nodau tymor byr a thymor hir; Adolygu a monitro cynnydd, gan ddiwygio’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella’r perfformiad cyffredinol.

Notes

This module is at CQFW Level 4