Theatr a Chyd-Destun 1

Module Identifier
TC11020
Module Title
Theatr a Chyd-Destun 1
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Roger Owen
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
TP11020
Mae TC11020 yn gyfeitihiad o TP11020
Other Staff
Dr Gareth Evans

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio Ysgrifenedig: Crynodeb - 750 o eiriauAseiniad Myfyrio Beirniadol - 750 o eiriau 1500 o eiriau 50%
Semester Assessment Traethawd Ysgrifenedig: Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar gwestiwn a ddewisir o restr 1500 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd Ysgrifenedig: Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar gwestiwn a ddewisir o restr 1500 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Portffolio Ysgrifenedig: Crynodeb - 750 o eiriauAseiniad Myfyrio Beirniadol - 750 o eiriau 1500 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth briodol o fframweithiau a methodolegau damcaniaethol allweddol sy'n berthnasol i ddadansoddi arferion theatr a pherfformio hanesyddol a chyfoes.
  2. Disgrifio, dehongli a gwerthuso amrywiaeth o destunau, arferion a ffurfiau theatr a pherfformio.
  3. Dangos gallu priodol i ddadansoddi perfformiad theatrig fel digwyddiad byw o fewn amrywiaeth o gonfensiynau a genres arddulliol.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gyfnodau canolog o hanes theatr gan ganolbwyntio ar theatr gyfoes a'i chyd-destunau hanesyddol cyn yr 20fed ganrif. Mae'r darlithoedd yn cyflwyno unedau pynciol fesul pythefnos, gan archwilio'r 'hen' a'r 'newydd'. Bydd darlith yr wythnos gyntaf yn archwilio enghraifft 'hanesyddol' o theatr a bydd darlith yr ail wythnos yn archwilio ei hetifeddiaeth gyfoes tra hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â pherthynas â enghraifft hanesyddol. Bydd y modiwl yn arfogi myfyrwyr â chysyniadau dadansoddol allweddol o ddrama, cymeriad, y corff, gofod ac amser. Bydd hefyd yn rhoi cyflwyniad iddynt i'r dadansoddiad o ddigwyddiadau theatr/perfformio byw.

Aims

Bydd astudio Theatr a Chyd-Destun 1 yn rhan greiddiol o ddarpariaeth Rhan 1 ddiwygiedig yr Adran. Bydd yn rhoi cyflwyniad cyffredin i holl fyfyrwyr Rhan 1 ar draws y cynlluniau gradd Drama, Theatr a Pherfformio i gysyniadau allweddol wrth astudio theatr a pherfformio cyfoes, yn ogystal â chanolbwyntio ar sgiliau darllen, ymchwil ac ysgrifennu academaidd craidd. Ynghyd ag Astudio Theatr 2 bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr Rhan 1 i ddatblygu dealltwriaeth gadarnach o natur gydgysylltiedig astudio mewn Drama, Theatr a Pherfformiad.
Nodau'r modiwl arfaethedig yw:
* Cyflwyno cysyniadau allweddol, ymarferwyr blaenllaw a ffurfiau canolog o’r 20fed ganrif ynghyd ag ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
* Datblygu diffiniadau o theatr a pherfformio fel ymarfer esthetig a digwyddiad byw.
*Darparu cyflwyniad i theori ac estheteg theatr.
* Cyflwyno dulliau methodolegol o ddadansoddi perfformiad byw a’u cymhwysiad.

Content

Mae'r modiwl yn cynnig cyfres o ddarlithoedd ar brif ffurfiau, genres, hanesion a damcaniaethau theatr a pherfformio. Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl yn cael eu strwythuro fesul pythefnos. Ochr-yn-ochr â'r darlithoedd bydd seminar dwy awr wythnosol dan arweiniad tiwtor, a fydd yn helpu i ddyfnhau ymgysylltiad myfyrwyr â'r eirfa a'r damcaniaethau beirniadol a gyflwynir yn y darlithoedd ac yn rhoi ffyrdd i fyfyrwyr gymhwyso'r rhain i ddadansoddiad o berfformiad byw.

Cynnwys enghreifftiol y darlithoedd:

* Diffiniadau o 'theatr', 'drama' a 'pherfformiad'
* Trasiedi Groeg (Oedipus Rex)
* Addasiadau cyfoes o drasiedi Groeg
* Theatr ganoloesol (Medieval theatre (The Chester Mystery Plays, The Castle of Perseverance)
* Achosion cyfoes o'r Oesoedd Canol (Mistero Buffo)
* Hamlet Shakespeare a genedigaeth y goddrych modern.
* Pensaernïaeth Hamlet (Heiner Muller, Robert Lepage)
* Neo-glasuriaeth (Racine, Moliere)
* Amlygiadau cyfoes o'r neo-glasurol (Kane, Wertenbaker, van Hove)
* Astudio'r hanesyddol a'r cyfoes

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Ymdrinnir â gwaith grŵp effeithiol drwy drafod syniadau a barn drwy'r seminarau. Mae trafodaethau seminarau'n mynnu bod y sgiliau angenrheidiol yn cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau cydweithredol.
Creative Problem Solving Mae datrys problemau dadansoddol, adnabod canlyniadau ac adnabod strategaethau a gweithdrefnau priodol yn cael eu hannog a'u hasesu drwy gydol y modiwl.
Digital capability Mae'r gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio a chyflwyno aseiniadau ysgrifenedig yn cael ei asesu'n uniongyrchol yn Asesiadau 1 a 2.
Professional communication Mae'r gallu i gyfleu syniadau'n effeithiol yn cael ei ddatblygu yn y seminarau a'i asesu'n uniongyrchol drwy Asesiad 1 a 2.
Real world sense Mae hunanreoleiddio, cymhelliant a sgiliau rheoli amser yn cael eu datblygu drwy'r modiwl a gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn llwyddiannus.

Notes

This module is at CQFW Level 4