Creu Ffilmiau Byrion 1
- Module Identifier
- TC11120
- Module Title
- Creu Ffilmiau Byrion 1
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Thomas Alcott
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
FM11420 or FM11520
- Other Staff
- Dr Gareth Evans
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Prawf Camera - Theori ac Ymarfer: 1 Hours 1 Awr | 10% |
| Semester Assessment | Traethawd Adlewyrchol Feirniadol: 1500 o eiriau | 40% |
| Semester Assessment | Prosiect Fideo Grŵp (4-5 munud): | 50% |
| Supplementary Assessment | Prawf Camera - Theori ac Ymarfer: 1 Hours 1 Awr | 10% |
| Supplementary Assessment | Traethawd Adlewyrchol Feirniadol: 1500 o eiriau | 40% |
| Supplementary Assessment | Prosiect Fideo Grŵp (4-5 munud): | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Datblygu ffilm fer trwy wahanol gamau cynhyrchu (datblygu, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu, ôl-gynhyrchu)
- Gallu gweithredu camera, offer sain proffesiynol a meddalwedd golygu.
- Gallu dewis a defnyddio cysyniadau ffilm craidd wrth ddatblygu, cynllunio a chynhyrchu eich ffilm.
- Gallu cynllunio a chynhyrchu eich ffilmiau mewn modd proffesiynol a diogel.
- Gallu gweithio'n greadigol ac yn effeithiol mewn grŵp/criw.
Brief description
Cynlluniwyd Creu Ffilmiau Byr 1 i roi sylfaen yn yr holl sgiliau sylfaenol y bydd eu hangen ar fyfyriwr er mwyn symud ymlaen i fodiwlau ymarferol uwch. Bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau technegol, creadigol a logistaidd craidd sy’n ganolog i wneud ffilmiau mewn modd proffesiynol.
Bydd y modiwl hwn yn mynd â myfyrwyr drwy'r cyfnodau allweddol o wneud ffilmiau (datblygu, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu) ac yn dangos sut mae'r camau hyn yn cysylltu â'i gilydd. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau technegol craidd megis sut i weithredu camerâu proffesiynol, cit sain a meddalwedd golygu. Yr un mor bwysig, byddant yn dysgu cysyniadau creadigol a logistaidd allweddol i'w defnyddio wrth ymdrin â ffilm o rôl Sgriptiwr, Cyfarwyddwr, Gweithredwr Camera, Golygydd neu Dechnegydd Sain.
Bydd y modiwl hwn yn helpu i ddatblygu agwedd greadigol a phroffesiynol at wneud ffilmiau er mwyn i fyfyrwyr allu eu cario i fodiwlau uwch yn y dyfodol.
Aims
Bwriad y cwrs hwn yw cyflwyno cysyniadau a sgiliau allweddol mewn cynhyrchu cyfryngau, a sefydlu'r broses feddwl sydd wrth wraidd gwaith ymarferol.
Content
Mae cynnwys y cwrs yn canolbwyntio ar y canlynol:
* Camau cynhyrchu. Pwy sy'n gwneud beth a phryd.
* Ysgrifennu ar gyfer y sgrin: ysgrifennu sgript; siapio strwythur; a thechnegau ar gyfer creu naratif.
* Gweithdrefnau ar gyfer ffilmio: methodolegau saethu a'u goblygiadau artistig.
* Creu gwahanol bortreadau o 'ofod' ar y sgrin a'u potensial mynegiadol.
* Onglau camera a meintiau saethiadau.
* Ffocysu ddelwedd.
* Iaith Lens.
* Agweddau pellach ar sinematograffi digidol.
* Cysyniadau camera allweddol wrth gyfarwyddo ar gyfer gwneud ffilmiau naratif: egwyddorion, rheolau a phryd dylid eu torri.
* Cyflwyniad i olygu; saethu ar gyfer golygu.
* Elfennau ôl-gynhyrchu.
Bydd y sesiynau uchod yn cael eu cwmpasu trwy ddarlithoedd a gweithdai am wyth wythnos gyntaf y semester. Bydd y pythefnos arall y semester yn cael ei ddefnyddio i saethu’r prosiect fideo a chymhwyso’r theori i’r ymarfer.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mae defnyddio pecyn golygu a chamera yn golygu cymhwyso sgiliau rhif. |
| Communication | Mae ymarferion cynhyrchu byr yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd ac actorion.Mae'r prosiect fideo yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd, tiwtor ac actorion. |
| Improving own Learning and Performance | Yn ystod ymarferion camera wythnosol, mae'r tiwtor yn gofyn i fyfyrwyr werthuso eu penderfyniadau creadigol.Yn y traethawd beirniadol, mae myfyrwyr yn gwerthuso i ba raddau y maent wedi gwireddu eu nodau creadigol ar gyfer y cynhyrchiad fideo. |
| Information Technology | Defnyddir meddalwedd proffesiynol i olygu'r gwaith. |
| Personal Development and Career planning | Mae'r modiwl yn pwysleisio gwaith cynhyrchu mewn rolau a ddiffinnir yn broffesiynol fel cyfarwyddwr, sinematograffydd ac awdur. Mae hefyd yn sefydlu ar lefel sylfaenol y gweithdrefnau proffesiynol mewn cynhyrchu.Gellir ychwanegu'r prosiectau fideo at bortffolio cynhyrchu myfyrwyr fel prawf o allu. |
| Problem solving | Mae'r ymarferion wythnosol yn cynnwys problem esthetig i'w datrys trwy wneud penderfyniadau.Mae cynhyrchu asesiad fideo byr yn gofyn am ddatrys problemau mewn meysydd creadigol, deallusol, logistaidd a thechnegol. |
| Research skills | Mae cyn-gynhyrchu ar gyfer prosiect fideo ac aseiniad ysgrifenedig yn cynnwys ymchwil i ddilyniannau ffilm a fydd yn llywio'r gwaith creadigol. |
| Team work | Cynhelir ymarferion camera mewn grwpiau bach.Mae'r cynyrchiadau fideo yn cael eu gwireddu mewn grwpiau bach. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
