Module Information

Module Identifier
TC12240
Module Title
Creu Ffilmiau Byrion 2
Academic Year
2026/2027
Co-ordinator
Semester
Semester 2

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Dyddlyfr  2000 o eiriau  30%
Semester Assessment Prosiect Ffilm 1/Film Project 1  (2-3 munud/minutes)  30%
Semester Assessment Prosiect Ffilm 2/Film Project 2  (4-5 munud/ minutes)  40%
Supplementary Assessment Prosiect Ffilm 1/Film Project 1  (2-3 munud/minutes)  30%
Supplementary Assessment Prosiect Ffilm 2/Film Project 2  (4-5 munud/ minutes)  40%
Supplementary Assessment Dyddlyfr  2000 o eiriau  30%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Dangos ymwybyddiaeth o wahanol gamau cynhyrchu cyfryngau o'r syniad i'r gwireddu, gan gynnwys gwaith camera a golygu.

Llwytho a rhannu cynhyrchiadau.

Gweithio'n effeithiol fel rhan o grŵp cynhyrchu.

Dangos dealltwriaeth fanylach o rolau cynhyrchu penodol.

Dangos gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith fel unigolyn o fewn tîm cynhyrchu.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cynhyrchu cyfryngau gan gynnwys ysgrifennu, ymchwilio, ffilmio a golygu ffilmiau byrion ar draws gwahanol genres ac ymgorffori nifer o arddulliau gwahanol. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau ffilmio mewn gwahanol rolau cynhyrchu.

Yn ogystal, bydd materion cydgyfeirio cyfryngau yn cael eu trafod trwy rannu a thrafod y ffilmiau wythnosol a chadw dyddlyfr a fydd yn caniatáu myfyrio beirniadol a damcaniaethol ar gynhyrchu cyfryngau.

Content

O fewn y modiwl ceir gweithdai ar ysgrifennu; gwaith camera; golygu; arddulliau ffilm gwahanol a chydweithio fel rhan o dîm cynhyrchu.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Mi fydd angen sgiliau rhifedd i ymgymryd â'r gwaith golygu.
Communication Bydd sgiliau cyfathrebu effeithiol - llafar, ysgrifenedig a gweledol - yn cael eu datblygu drwy gydol y modiwl.
Improving own Learning and Performance Darperir adborth ffurfiol drwy gydol y modiwl a fydd yn helpu myfyrwyr i wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain.
Information Technology Fel rhan o'r modiwl bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio'r we fel rhan o'r broses ddysgu ac ymchwilio.
Personal Development and Career planning Bydd y sgiliau a geir o'r modiwl hwn yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Problem solving Bydd tasgau’n cael eu gosod i grwpiau cynhyrchu fel rhan o’r modiwl a bydd gofyn iddynt ddatrys problemau/materion sy’n ymwneud â’r rhain.
Research skills Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau penodol i baratoi ar gyfer y tasgau wythnosol sy'n ymwneud ag amrywiol arddulliau/ffurfiau.
Subject Specific Skills Bydd sgiliau cynhyrchu cyfryngau mewn amgylchedd cyfryngau cydgyfeiriol yn cael eu datblygu drwy gydol y modiwl.
Team work Bydd gofyn i grwpiau cynhyrchu weithio'n effeithiol fel tîm i gyflwyno cynnwys cyfryngau erbyn terfynau amser penodol.

Notes

This module is at CQFW Level 4