Module Information
Course Delivery
Assessment
| Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd 1 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Exam | Traethawd 2 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd 1 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Exam | Traethawd 2 2000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Dangos dealltwriaeth o, ac ymgysylltiad â, rhai o'r dulliau damcaniaethol allweddol o gyfathrebu gwleidyddol;
Dangos dealltwriaeth glir o hanes y berthynas rhwng y cyfryngau a'r byd gwleidyddol;
Ysgrifennu traethawd sydd wedi'i lywio gan, ac wedi'i seilio ar, rai o'r prif weithiau ysgolheigaidd yn y maes;
Cymhwyso cysyniadau damcaniaethol i enghreifftiau astudiaethau achos o gyfathrebu gwleidyddol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng gwleidyddiaeth a'r cyfryngau, yn bennaf yn y DU, ond gyda chyfeiriad at genhedloedd eraill a thueddiadau byd-eang. Mae'n ystyried nifer o ddulliau damcaniaethol o feddwl am gyfathrebu gwleidyddol ac yn ystyried y prosesau cyfathrebu cyfryngol sy'n digwydd rhwng yr 'actorion' gwleidyddol a dinasyddion. Mae hefyd yn ystyried y rôl a chwaraeir gan y cyfryngau mewn rhyfel ac mewn digwyddiadau gwleidyddol penodol (a astudir yn fanwl fel astudiaethau achos) cyn cloi gydag ystyriaeth o ble mae pŵer gwirioneddol yn gorwedd.
Content
Cyflwyniad i'r modiwl: gwleidyddiaeth a'r cyfryngau
Y Cyfryngau, Grym, a'r Gyhoeddfa
Propaganda ar ffilm ac yn y cyfryngau I a II
Y cyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth
Llywodraethau a rheoli newyddion
Perchnogaeth a rheolaeth y cyfryngau
Etholiadau a refferenda
Y cyfryngau, gwleidyddiaeth a phŵer yng Nghymru
Crynodeb: Ble mae pŵer go iawn?
Module Skills
| Skills Type | Skills details |
|---|---|
| Application of Number | |
| Communication | |
| Improving own Learning and Performance | Wedi'i ddatblygu trwy ymgysylltiad beirniadol â'r prosesau gwleidyddol cyfryngol sy'n cael eu hastudio. |
| Information Technology | Bydd hyn yn cael ei ddatblygu trwy ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig a ddefnyddir at ddibenion ymchwil mewn perthynas â'r aseiniad ysgrifenedig. |
| Personal Development and Career planning | Bydd gofyn i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain drwy'r adborth ffurfiannol. |
| Problem solving | Bydd hyn yn cael ei ddatblygu o fewn trafodaethau seminar a bydd yn cael ei asesu drwy'r traethodau |
| Research skills | Wedi'i ddatblygu trwy ddarllen ac mewn trafodaethau seminar ac wedi'i asesu yn yr aseiniadau ysgrifenedig |
| Subject Specific Skills | Bydd y modiwl yn datblygu ac yn asesu sgiliau sy'n gysylltiedig â chyfathrebu gwleidyddol a bydd yn gwella sgiliau beirniadol myfyrwyr mewn perthynas â'r ffordd y mae 'actorion' gwleidyddol a'r cyfryngau'n rhyngweithio ar raddfa leol a byd-eang. |
| Team work | Nid oes unrhyw waith grŵp yn gysylltiedig â'r modiwl hwn ac ni ddatblygir y sgil hon y tu hwnt i gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
