Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau

Module Identifier
TC31120
Module Title
Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Gareth Evans
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
TC31020
Other Staff
Dr Roger Owen
Dr Gareth Evans
Elin Morse

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Asesu Parhaus: 80 Hours Asesu parhaus ymarferol: ymarfer a pharatoi gogyfer cynhyrchiad amlgyfrwng 80 Awr 60%
Semester Assessment Portffolio: Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth â 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi’i olygu 40%
Supplementary Assessment Cyflwyniad Ymarferol: 1 Hours Cyflwyniad ymarferol unigol yn seiliedig ar thema roddedig (cyfwerth â 30 munud) 1 Awr 60%
Supplementary Assessment Portffolio: Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth â 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi’i olygu 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos gallu datblygedig i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol y cynhyrchiad yn ystod y broses ddyfeisio.
  2. Arddangos gallu i gymhwyso’r ddealltwriaeth honno i lefel uwch wrth baratoi deunydd ymarferol tuag at y cynhyrchiad amlgyfrwng.
  3. Arddangos meistrolaeth o ystod o sgiliau ymarferol ym maes y cyfryngau.
  4. Arddangos gallu i gymhwyso ac adfyfyrio yn ddwys a beirniadol ar eu dealltwriaeth o natur y deunydd a gynhyrchir, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Brief description

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cynhyrchu ymhellach trwy fod yn rhan o broses o greu ac ymarfer cynhyrchiad amlgyfrwng byw. Fe fydd briff sylfaenol y cynhyrchiad yn cael ei gyflwyno i’r myfyrwyr gan aelod o staff yr Adran, ac fe fydd modd i’r myfyrwyr gyfrannu i’r broses trwy ddarparu gwaith camera a/neu sain dan ofalaeth yr aelod staff hwnnw. Fe fydd gofyn iddynt astudio'r testun a ddewiswyd ar gyfer y prosiect, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth yr awdur, ymchwilio i gynyrchiadau blaenorol, ac ystyried sut gellir ei gyflwyno’n fyw yn y presennol.

Yn sgil y gwaith cychwynnol hwn, fe archwilir sut i greu cynllun ymarfer effeithiol a thrylwyr ar gyfer y cynhyrchiad, ac fe eir ati i roi prawf ar y cynllun hwnnw trwy gyfrwng arbrofion ac ymarferion ffilmig, gweledol a seiniol. Yn ystod y cyfnod hwn, dosrennir tasgau penodol i’r myfyrwyr o safbwynt gwaith ffilmio unigol, saethu golygfeydd a gweithgareddau grŵp, addasu testunol, saethu gwaith cymeriadol a choreograffi. Daw’r gwaith ar gyfer y modiwl hwn i ben wrth i’r deunydd fideo gael ei gwblhau a’i drefnu fel ag i’w gynnwys yn y cynhyrchiad a’i ddangos i gynulleidfa fyw.

Wrth ymroi i’r broses hon o arbrofi, archwilio, adeiladu ac ymarfer, fe fydd y myfyrwyr yn cydweithio gyda myfyrwyr ar nifer o fodiwlau eraill: sef TC21020 Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio, TC21120 Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau, a TC31020 Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ar y modiwlau hyn ganfod a diffinio ffyrdd o gyd-weithio a rhannu gwahanol gyfrifoldebau creadigol ac ymarferol tuag at nod cyffredin.

Rhydd y cydweithio hwn gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu a mireinio sgiliau ymarferol arbenigol; ond fe fydd hefyd yn gofyn iddynt adolygu eu cynnydd hwy eu hunain a gosod eu cyfraniad i’r gwaith dyfeisio, creu ac ymarfer yn ei gyd-destun (o ran gwaith ymchwil, a’r cyd-destun ymarferol ac artistig); gwneir hyn trwy gyflwyno Portffolio Beirniadol a Dogfennol. Fe gyflwynir 5 seminar 1 awr i’r grwpiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect er mwyn trafod a chynnig cyngor ar baratoadau tuag at yr aseiniad hwn.

Content

Rhestr o weithgareddau nodweddiadol i’w cyflwyno yn y sesiynau ymarferol a’u trafod yn y seminarau:
Darllen y Ddrama
Arbrofi gyda’r berthynas rhwng y perfformio a’r gwaith sgrin
Asio’r deunydd sgrin a’r perfformio byw
Creu deunydd sgrin annibynnol/ ychwanegol i’r perfformio byw
Llunio sgript saethu ar gyfer y digwyddiad byw
Pennu symudiadau ac onglau camera ar gyfer y saethu
Pennu pwyntiau torri/golygu ar gyfer y ffilmio byw
Penderfynu sut i gymysgu’r delweddau
Ymarfer y digwyddiadau byw

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Fel unrhyw broses greadigol, fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i’r myfyrwyr addasu a newid eu gweledigaeth wrth ymwneud â datblygiad y prosiect ymarferol. Fe fydd y profiad hwn o gydweithio ac ymateb i ffurf graddol-ddatblygol y prosiect yn rhoi prawf go iawn ar wytnwch a dyfalbarhad y myfyrwyr.
Co-ordinating with others Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar brofiad dwys o waith ymarferol mewn grŵp yn y Prosiect Cynhyrchu amlgyfrwng. Fe fydd hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos gyda’u cyd-fyfyrwyr ym maes perfformio; a rhydd y pethau hyn .gyfle i'r myfyrwyr ddeall ac ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tîm.
Creative Problem Solving Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect amlgyfrwng. Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad amlgyfrwng, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gweledigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes.
Critical and analytical thinking Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau dadansoddiadol er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr ac yn gosod y gwaith hwnnw mewn cyd-destun ehangach yn seiliedig ar ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd.
Digital capability Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddeall a defnyddio offer technegol digidol wrth wneud baratoi eu gwaith ymarferol, ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith.
Professional communication O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad amlgyfrwng byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, o ran gwaith camera, sain a golygu. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wythnosol.
Real world sense Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i'r cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbenigo mewn maes o'u dewis hwy (gwaith camera, sain neu olygu), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa.
Reflection Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas a'u cryfder wrth ymateb i rai o'r rhwystrau a all godi.

Notes

This module is at CQFW Level 6